British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 16 Tachwedd 2009, 14:07 GMT
Cyfres o ladradau o ffermydd

Tractor
Mae nifer o beiriannau fferm wedi eu dwyn yn ddiweddar

Mae'r heddlu yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi rhybuddio'r gymuned amaethyddol i fod ar eu gwyliadwraeth yn dilyn cyfres o ladradau o beiriannau fferm.

Mae sawl achos yn ddiweddar o ladradau o gerbydau 4x4, beiciau cwad a diesel mewn cymunedau gwledig yng Nghastell-nedd a Phontardawe, lle y mae dros 150 o ffermydd a thyddynnod mewn 100,000 erw o dir.

Dywedodd yr Arolygydd Jeff Handley o Heddlu De Cymru ar ran Plismyn yn y Gymdogaeth: "Rydym yn annog y rheiny sy'n byw yn ein cymunedau gwledig i fod yn wyliadwrus ac i gymryd gofal rhag troseddwyr.

Fe gynhaliodd yr heddlu ymgyrch ddydd Iau Tachwedd 12 yn ardal Cwm Dulais arweiniodd at ddod o hyd i Land Rover oedd wedi ei ddwyn, darnau sbâr o gerbydau 4x4 a swm mawr o ddiesel.

Arestio

Cafodd dau ddyn, 28 a 30 oed, eu harestio ac maent ar hyn o bryd o dan fechnïaeth hyd nes y gwneir ymholiadau pellach.

Yn ôl yr Arolygydd Handley: "Nid ydym yn credu bod y lladradau sydd wedi digwydd yn rhai ynysig ac rydym wrthi yn ceisio canfod y rhai a ddrwgdybir gan arestio y rheiny sy'n gyfrifol.

"Bydd y Tîm Plismona yn y Gymdogaeth yn cysylltu ag aelodau o'r gymuned amaethyddol er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r materion yma ac i dderbyn unrhyw wybodaeth berthnasol.

"Rydym yn dilyn sawl ffynhonnell o wybodaeth ac rwy'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y lladradau i gysylltu â'r heddlu."



HEFYD
Ffermydd: Mwy o ddwyn
07 Hyd 09 |  Newyddion
Fferm: Dwyn gwerth £40,000
04 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific