British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 16 Tachwedd 2009, 10:40 GMT
Gwenwyno: Carcharu meddyg

Dr Edward Erin
Roedd Erin wedi gwadu'r cyhuddiadau o geisio gwenwyno ei gariad

Mae meddyg priod oedd yn euog o ddau gyhuddiad o geisio gwenwyno ei gariad er mwyn erthylu ei babi wedi cael chwe blynedd o garchar.

Clywodd Llys yr Old Bailey fod Edward Erin, 44 oed yn wreiddiol o Gaerffili, yn cael perthynas â Bella Prowse a'i fod wedi rhoi cyffuriau yn ei diod pan wrthododd hi gael erthyliad.

Roedd y tad i ddau o blant oedd yn gweithio yn Ysbyty'r Santes Fair, Paddington, wedi gwadu'r cyhuddiadau.

Dywedodd y Barnwr Richard Hone fod y diffynnydd yn "gelwyddgi, yn dwyllwr ac yn rheibiwr."

Roedd Erin, meddai, yn byw bywyd ffantasi ac wedi "bradychu ei alwedigaeth a'i deulu".

Fe gafodd Miss Prowse, 33 oed, fabi iach ym Medi 2008.

Roedd Erin wedi rhoi gwenwyn mewn coffi gafodd ei brynu yn Starbucks a gwydr diod sudd oren.

Clywodd y llys fod profion yn dangos fod y cyffur oedd yng nghorff Miss Prowse mewn coffi yr oedd Erin wedi ei roi iddi.

Roedd yn ddieuog o drydydd cyhuddiad o roi gwenwyn mewn cwpaned o de.

'Dim amheuaeth'

Dywedodd Sean Larkin ar ran yr erlyniad mai cnewyllyn yr achos oedd a oedd y diffynnydd wedi rhoi'r cyffur yn niod Ms Prowse.

"Does 'na ddim amheuaeth nad oedd Erin eisiau'r babi," meddai Mr Larkin.

"Fe fyddai cael y babi gyda Bella Prowse yn golygu chwalu ei fywyd."

Dywedodd Clare Montgomery QC ar ran yr amddiffyn fod y berthynas rhwng Erin a'i ysgrifenyddes yn "gymhleth".

"Dydi hi ddim yn fater mor syml â'r hyn y mae'r erlyniad yn ei honni, bod Erin yn rhoi pwysau ar Ms Prowse a'i fod yn ei bwlio i gael erthyliad."



HEFYD
Achos gwenwyno: 'Cyngor'
14 Hyd 09 |  Newyddion
Tad y babi?: 'Ddim yn siwr'
12 Hyd 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific