Dioddefodd gorllewin Cymru yn wael gan lifogydd ddydd Gwener a dydd Sadwrn
|
Mae dau rybudd am lifogydd yn parhau mewn grym yng Nghymru yn dilyn glaw trwm nos Sul, gyda gwyntoedd cryf i barhau yn ystod y dydd. Yr ardaloedd dan sylw yw Dyffryn Dyfrdwy o Langollen i Gaer, a Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro. Mae rhai o'r gwasanaethau fferi cyflym rhwng Caergybi a Dulyn wedi eu canslo. Ym Mhowys, mae'r A4077 rhwng Crucywel a'r A465 yng Ngilwern wedi ei chau wedi i goeden gwympo, ac ni fydd yn ail-agor tan yn ddiweddarach yn y bore. Mae Pont Cleddau ar yr A477 ar gau i gerbydau uchel a beiciau modur rhwng Doc Penfro a Neyland oherwydd y gwyntoedd uchel. Mae rhybudd am law trwm mewn grym ar draws y canolbarth a de Cymru, ond disgwylir i'r glaw gael eu symud yn gyflym yn sgîl y gwyntoedd, yn ôl rhagolygon tywydd y BBC. Mae gwynt o 60mya yn bosibl, yn enwedig yn ardal Ynys Môn. Disgwylir i'r glaw trwm gael ei ddisodli gan haul a chawodydd. Teithwyr Fodd bynnag mae disgwyl mwy o law trwm ar gyfer dyddiau Mercher a Iau, gyda hyd at chwe modfedd o law yn bosibl ledled Cymru a gogledd Lloegr. Mae cychod cyflym cwmni Irish Ferries rhwng Caergybi a Dulyn wedi eu canslo ar gyfer dydd Llun, gyda theithwyr yn dal y fferi draddodiadol yn lle. Dywedodd cwmni Stena ei fod yn bosibl y byddai amharu ar y gwasanaeth o Dun Laoghaire i Gaergybi am 1.30pm, gan ofyn i deithwyr gysylltu â'r gwasanaeth ar 08705 755755 neu 01 204 7799 o'r Iwerddon. Dioddefodd gorllewin Cymru yn wael gan lifogydd ddydd Gwener a dydd Sadwrn, gyda'r gwasanaeth tân yn derbyn 140 o alwadau'n gysylltiedig â llifogydd, yn bennaf yn Sir Benfro. Cafodd nifer o bobl eu hachub o'u cerbydau, gan gynnwys dyn yr oedd ei garafán wedi arnofio i ffwrdd yng Ngwynedd, ac fe adawodd injan dân yr heol yn Sir Benfro. Cyrhaeddodd y gwynt gyflymder o 70mya mewn rhai rhannau o'r arfordir, cyn i'r glaw beidio.
|