British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 16 Tachwedd 2009, 13:32 GMT
Henoed: Opsiynau talu am ofal

Henoed
Bydd nifer y bobl yng Nghymru sy' dros 85 oed yn dyblu i 137,000

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi argymhellion ynghylch ariannu gofal i bobl oedrannus.

Ac mae'r opsiynau wedi eu seilio ar yr egwyddor y dylai talu am ofal fod yn bartneriaeth rhwng yr unigolyn a'r llywodraeth.

Byddai modd i unigolion gael yswiriant rhag ofn y byddai angen gofal arnyn nhw.

Fel arall, fe fyddai'n ofynnol i unigolion dros oedran ymddeol wneud un taliad cyn neu wedi ymddeol.

'Ddim yn gynaliadwy'

Wrth lansio'r argymhellion, dywedodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: "Mae 'na gydnabyddiaeth yn gyffredinol fod y system bresennol o dalu am ofal yn gymhleth, yn annheg, a ddim yn gynaliadwy yn y tymor hir.

"Dyna pam y llynedd y dechreuais i drafodaeth yng Nghymru am sut y dylen ni dalu am ofal a help yn y dyfodol.

"Mae'r Papur Gwyrdd hwn yn mynd â'r drafodaeth gam ymhellach ac yn pennu opsiynau penodol ..."

Dywedodd fod Llywodraeth San Steffan wedi amlinellu opsiynau yn yr haf.

"... rydyn ni wedi ystyried yr opsiynau hyn yng ngoleuni ein hymgynghori cynharach ac yng nghyd-destun ein gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru."

Yn yr ugain mlynedd nesa mae disgwyl i nifer y bobl yng Nghymru dros 85 oed ddyblu i 137,000 ac mae disgwyl i bedair gwaith yn fwy o bobl gyrraedd 100 oed.

96,000

Y disgwyl yw y bydd bron 96,000 o bobl dros 65 oed yng Nghymru angen gofal yn y flwyddyn 2031.

Yn ôl y drefn bresennol, os yw pobl angen gofal rhaid i'r awdurdodau lleol asesu eu hanghenion - a phenderfynu a ddylid darparu gofal parhaol.

Pan mae person angen gofal parhaol mewn cartref preswyl mae'r awdurdodau lleol yn codi tâl am y gofal, gan gynnwys golchi, bwydo, help i symud ac yn y blaen.

Ac mae 'na dâl am aros yn y cartref.

Os oes gan berson fwy na £22,000, mae disgwyl iddo dalu'n llawn ar hyn o bryd am gost llety a gofal.

Os yw'r swm yn llai, ar hyn o bryd mae'n rhoi cyfran o'i incwm.

Er bod gofal cymdeithasol wedi ei ddatganoli, nid yw'r system fudd-daliadau wedi ei datganoli.

Mae'r cyfnod ymgynghori 15 wythnos yn dechrau ddydd Llun.



HEFYD
Mwy o oedolion angen cymorth
31 Maw 09 |  Newyddion
Enwi Comisiynydd Pobl Hyn Cymru
07 Ion 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific