Y cam nesaf fydd gwella amddiffynfeydd yr harbwr
|
Fe gafodd amddiffynfeydd arfordirol gwerth £5.3 miliwn eu hagor yn swyddogol ddydd Llun. Mae'r amddiffynfeydd yn Aberaeron, Ceredigion, yn cynnwys 75,000 tunnell o graig a cherrig ar draeth y gogledd. Cafodd lefel promenâd y dre glan y môr ei chodi fel rhan o'r cynllun i amddiffyn yr arfordir rhag y môr. Mae'r gwaith eisoes wedi cychwyn ar y rhan nesa o'r cynllun, sy'n cynnwys cryfhau amddiffynfeydd yr harbwr. Fe wnaeth Cyngor Ceredigion dderbyn arian gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer y gwaith o godi amddiffynfeydd. 'Amddiffyn cymunedau' Jane Davidson, Gweinidog yr Amgylchedd, agorodd yr amddiffynfeydd. "Bwriad cynlluniau o'r fath yw amddiffyn cymunedau ar yr arfordir. "Ond mae'r cynlluniau hefyd yn cadw golwr ar rybuddion llifogydd ac yn helpu cymunedau i addasu i'r bygythiadau cynyddol sy'n bodoli wrth i lefel y môr godi." Yn y cyfamser, mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru am gael gwybod barn y cyhoedd am reoli llifogydd ar arfordir y gogledd. Roedd adroddiad diweddar yn awgymu bod miloedd o bobl sy'n byw mewn ardaloedd o'r fath yn wynebu risg o lifogydd. Bydd hysbysfyrddau gwybodaeth yn Llyfrgell y Fflint tan Ragfyr 20. Mae cynrychiolwyr yr asiantaeth hefyd yn ymweld â Queensferry a Treffynnon er mwyn casglu barn pobl leol. Fe wnaeth adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru rybuddio am beryglon llifogydd oherwydd newid hinsawdd.
|