Dychwelyd: Er mwyn i'r gweddillion 'orffwys yn dawel'
|
Seremoni breifat yng Nghaerdydd ddydd Llun yw'r cam cynta cyn dychwelyd gweddillion hynafiaid y Maoriaid i Seland Newydd. Mae gweddillion sgerbydol - un fenyw, pum dyn a'r gweddill yn anhysbys - ar hyn o bryd yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru. "Ar ôl astudio'r gweddillion a sylweddoli eu pwysigrwydd i'r gymuned Mäori, mae Amgueddfa Cymru yn credu ei bod yn briodol eu cynnig yn ôl i'w gwlad wreiddiol er mwyn iddyn nhw orffwys yn dawel," meddai Richard Brewer, Ceidwad Archeoleg yr amgueddfa. Fe fydd y gweddillion (koiwi tangata ) yn cael eu hanfon yn ôl i Amgueddfa Seland Newydd Te Papa Tongarewa. Bydd casgliad llai o weddillion sgerbydol hefyd yn cael eu dychwelyd. Mae'r awdurdodau wedi trefnu seremoni, Karanga Aotearoa, yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ddydd Llun. Cyn i'r gweddillion gael eu lapio fe fydd 'na lafarganu. Ar ôl gweddi ar ddiwedd y seremoni, bydd pob un yn taenu dŵr dros eu pennau a'u cyrff. 'Tro cyntaf' Dywedodd Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: "Hwn yw'r tro cyntaf i'r amgueddfa roi cynnig ar broses fel hon a gobeithiwn y bydd yn gyfle i ddechrau cydweithio ag eraill yn y dyfodol." Mae Mr Te Herekiekie Herewini o Amgueddfa Te Papa wedi dweud eu bod yn falch fod Amgueddfa Cymru wedi cytuno dychwelyd yr hynafiaid. "Mae hyn yn bwysig i'r Mäoriaid. "Y gred yw hyn - wrth ddychwelyd i'w mamwlad, fe fydd y meirwon â'u disgynyddion byw yn ailafael yn eu hurddas, a hefyd yn dod ag anaf a chamweddau'r gorffennol i ben." Ers Mai 2004 mae Amgueddfa Te Papa wedi trefnu symud gweddillion o wyth gwlad ac mae bron 149 o koiwi tangata (gweddillion sgerbydol) a toi moko (pennau â thatŵ mymiedig) wedi mynd adref.
|