Archesgob Cymru Barry Morgan a Llywydd Undeb Rygbi Cymru Dennis Gethin yn bresennol wrth ddadorchuddio cerflun Syr Tasker.
Mae cerflun efydd o Syr Tasker Watkins VC, cyn lywydd Undeb Rygbi Cymru a chyn-farnwr yn yr Uchel Lys, wedi cael ei ddadorchuddio yn y brifddinas ddydd Sul.
Mae'r cerflun, 9 troedfedd (2.7m) o uchder wedi ei leoli ar y fynedfa i Stadiwm y Mileniwm.
Ei ferch, y foneddiges Mair Griffith-Williams, wnaeth ddadorchuddio'r gofeb yn dilyn gorymdaith gan filwyr Catrawd y Cymry Brenhinol.
Roedd Prif Weinidog, Rhodri Morgan, a Llywydd y Cynulliad, Arglwydd Elis-Thomas ymhlith y rhai wnaeth fynychu'r seremoni.
Un o'r rhai tu cefn i'r ymgyrch i gael cofeb oedd Llywydd presennol yr Undeb Dennis Gethin.
Mae Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Caerdydd wedi cyfrannu £25,000 yr un tuag at y gost derfynol o £100,000.
Bu farw Syr Tasker yn 88 oed yn Medi 2007.
Ef oedd llywydd Undeb Rygbi Cymru rhwng 1993 a 2004
Yn 25 oed cafodd ei urddo â chroes Victoria am ei wrhydri wrth frwydro yn Normandi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, y Cymro cynta i dderbyn yr anrhydedd yn y rhyfel.
Ar ôl i Syr Tasker wasanaethu yn y fyddin bu'n astudio i fod yn fargyfreithiwr ac fe wnaeth argraff yn fuan iawn ac yn 1965 cafodd ei wneud yn QC.
Cafodd ei urddo'n farchog yn 1971 a'i wneud yn farnwr yn yr Uchel Lys yr un flwyddyn.
Cyn ei ymddeoliad daeth yn Ddirprwy Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.