British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 15 Tachwedd 2009, 09:55 GMT
Yfed a gyrru: Apêl mam

David Foulkes
Roedd David Foulkes wedi derbyn llifft gan Martin Bielicky

Mae mam wedi rhybuddio yn erbyn y peryglon o dderbyn lifft gan rywun sy wedi bod yn yfed a gyrru yn dilyn damwain farwol.

Bu farw David Foulkes, 23 oed, o Mancot Sir Fflint, yn y ddamwain a daeth sylwadau ei fam ar ôl achos llys yn erbyn y gyrrwr Martin Bielicky, 29 oed.

Cafod Bielicky o Shotton ei garcharu am chwe blynedd ar ôl pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ei fod wedi yfed tair gwaith y lefel cyfreithlon o alcohol.

Ar ôl yr achos dywedodd Lynne Foulkes, mam David, ei fod eisiau i wersi gael eu dysgu.

"Dwi ddim am i farwolaeth fy mab fod yn ofer," meddai.

"Mae pobl yn mynd allan i gael amser da, ond dy nhw ddim yn meddwl am y peryglon."

Roedd ei mab wedi gaddo iddi pe na bai'n gallu cael tacsi yna byddai'n ei ffonio hi.

Ond fis Awst y llynedd fe wnaeth dderbyn llift gan ei ffrind Bielecky.

Wrth ei ddedfrydu dywedodd y barnwr Ustus Lloyd Jones: "Fe wanethoch ladd ei ffrind David Foulkes ac rydych yn gyfrifol am golled trasig a diangen."

Dywedodd Mrs Foulkes y byddai'n sefydlu cystadleuaeth cwpan pêl-droed yn y gynghrair leol er cof am ei mab.

Bydd unrhyw elw yn mynd tuag at CADD, yr ymgyrch yn erbyn yfed a gyrru.

Mae CADD yn darparu cymorth i deuluoedd y rhai sy wedi eu lladd neu eu hanafu gan yrwyr sy'n gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific