British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 14 Tachwedd 2009, 15:28 GMT
Achub brodyr o dân

Cafodd dau frawd eu hachub o dan yn Y Barri ar ôl syrthio i gysgu gan adael padell sglodion heb ei warchod.

Aed a'r dynion, y ddau yn eu 30au, i'r ysbyty yn diodde o fan losgiadau ag effeithiau mwg.

Dywedodd llefarydd ar ran y Frigâd Dan eu bod wedi derbyn galwad tua 1.15am dydd Sadwrn.

Achoswyd cryn ddifrod i lawr gwaelod y tŷ.

Yn ôl diffoddwyr roedd y ddau yn ffodus o ystyried nad oedd larymau mwg wedi eu gosod yn yr adeilad.

Cafwyd rhybudd hefyd gan y Frigâd Dan i bobl gymryd gofal wrth goginio.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific