British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 14 Tachwedd 2009, 14:00 GMT
Carcharu cyn brifathro

Mae cyn brifathro ysgol o Aberdaugleddau wedi ei garcharu am bum mlynedd am aflonyddu yn rhywiol ar ddwy ferch ifanc.

Yn Llys y Goron Preston, fe wnaeth Philip Hayes, 59 oed hefyd bledio'n euog i gyhuddiad o gadw lluniau anweddus.

Fe wnaeth Hayes, cyn brifathro ysgol yn Chorley, Sir Gaerhirfryn ddechrau aflonyddu ar y merched y 90au pan oeddynt y chwech ac wyth oed.

Cafodd ei arestio yn 2008 ar ôl i'r heddlu ddod o hyd i nifer o ddelweddau o blant ar ei gyfrifiadur.

Yn wreiddiol roedd wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Cafodd ei wahardd rhag gweithio gyda phlant a bydd ei enw yn cael ei roi ar restr troseddwyr rhyw.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific