British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 14 Tachwedd 2009, 16:14 GMT
'Smyglo corynnod': Cyhuddo Cymro

Tarantwla
Roedd tarantwla ymhlith y corynnod yn ôl yr awdurdodau

Dywed Heddlu Brasil fod Cymro wedi cael ei arestio ym maes awyr Rio de Janeiro ar gyhuddiad o geisio smyglo 900 o bryfaid cop byw o'r wlad.

Mae Lee Ardern, 26 oed, perchennog siop The Spider yn Aberteifi yn wynebu cyhuddiad o geisio allforio anifeiliaid heb ganiatâd.

Yn ôl rheolau Brasil, medd yr heddlu, mae o eisoes yn wynebu dirwy o £452,000.

Mae o wedi ei ryddhau ar fechnïaeth, ac mae ganddo 20 diwrnod i apelio yn erbyn y ddirwy.

Credir fod Mr Ardern yn teithio o Baraguay i Lundain.

Mae angen trwydded arbennig i symud anifeiliaid byw o Brasil.

Dywed yr awdurdodau i beiriant pelydr x weld y corynnod yn ei fag teithio.

Yn ôl yr heddlu roedd o'n honni iddo brynu'r pryfaid cop am £3 yr un ac roedd yn gobeithio eu gwerthu ym Mhrydain am £30 yr un.

Roedd 600 o'r corynnod o Baraguay. Roedd y gweddill i'w cael yn y ddwy wlad.

Mae'n debyg fod tarantwlaod yn eu plith.

Mae smyglo anifeiliaid yn broblem fawr yn Brasil, gyda'r awdurdodau yn achub tua 50,000 o anifeiliaid bob blwyddyn.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific