Cafodd y blychau eu dwyn o ganol tre Llandudno
|
Mae saith o flychau casglu arian ar gyfer y Lleng Bydeinig wedi eu dwyn mewn tre glan y môr. Roedd y blychau pabi ymhlith 250 gafodd eu dosbarthu yn nhre Llandudno gan yr elusen. Dywedodd llefarydd ar ran y Lleng Brydeinig iddynt sylwi fod y blychau wedi mynd ar ôl Sul y Cofio. Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio. Yn ôl Billy Evans, llywydd y gangen leol ers 1987, roedd y blychau yn eitha agos i'w gilydd. "Mae'r arian sy'n cael ei gasglu yn mynd i deuluoedd y rhai a gollwyd," meddai Mr Evans, sy hefyd yn gynghorydd tre. "Gyda'r cyfan sy'n digwydd yn y byd - mae be sy di digwydd yn gywilydd.
 |
Gyda'r cyfan sy'n digwydd yn y byd - mae be sy di digwydd yn gywilydd
|
"All neb ddweud nad ydynt yn gwybod pwy sy'n cael yr arian." Cafodd y blychau eu dwyn o Gymdeithas Adeiladu Yorkshire, Thomas Cook, neuadd y dref, Meddygfa Mostyn, Banc Nat West, Banc Barclays a Venue Cymru Y llynedd fe wnaeth yr apêl godi tua £15,000 yn ardal Llandudno. Dywed Mr Evans, eu bod yn gobeithio codi swm tebyg eleni ger gwaetha'r hyn sy wedi digwydd. Ychwanegodd fod y rhyfel yn Afghanistan wedi gwneud pobl yn fwy ymwybodol o'r peryglon sy'n wynebu milwyr, a bod mwy nag erioed wedi mynychu seremoni Sul y Cofio.
|