|
Bydd Gŵyl Gerdd Dant yn ymweld â Chasnewydd am y tro cyntaf erioed eleni wrth i Gymdeithas Cerdd Dant Cymru ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed. Mae'r Ŵyl undydd yn cael ei chynnal yn Theatr Glan yr Afon ddydd Sadwrn. Er bod twf wedi bod yn nifer y corau sy'n cystadlu eleni, mae yna brinder mewn nifer o gystadleuthau eraill. Mae rhai yn son y gallai cyngerdd sy'n cael ei gynnal yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar yr un noson fod wedi profi'n ormod o atyniad i rai cantorion. Ond dywedodd trefnydd Dewi Jones ei fod yn ffyddiog y bydd yr Ŵyl eleni yn fendigedig. Yr ifanc "Hawdd iawn ydi sticio i ardaloedd fel Pen Llŷn, Sir Fôn a'r cadarnleoedd. "Rydan ni yma yng Nghasnewydd ac mae hynny yn wych o beth. "Ydi mae hi'n anoddach ac yn gyffredinol mae 'na lai yn cystadlu, ond rydan ni yma a da o beth ydi hynny." Dywedodd un o aelodau Pwyllgor y Gymdeithas, Owain Siôn, bod mwy a mwy o bobl ifanc yn dangos diddordeb. "Rydym yn dathlu eleni ac mae'n galondid i'r gymdeithas bod cymaint o bobl ifanc yn ymwneud â'r gymdeithas neu a byd cherdd dant ei hun," meddai. Ond yng Nghanolfan y Mileniwm fe fydd cyngerdd i ddathlu pen-blwydd y ganolfan yn 5 oed, pen-blwydd y cyfansoddwr Karl Jenkins a 10 mlynedd ers Datganoli yng Nghymru. Dywedodd Huw Foulks, arweinydd Côr Y Waun Ddyfal yng Nghaerdydd, eu bod nhw wedi gorfod pwyso a mesur cystadlu yn yr ŵyl neu gymryd rhan yn y cyngerdd. "Fe ddaeth y gwahoddiad ym mis Awst i gymryd rhan ac roedd rhaid meddwl pa ddigwyddiad fyddai mwya o fudd i ni fel côr eitha newydd ifanc yng Nghaerdydd. "Fe wnaethon ni gystadlu dwy flynedd yn ôl yn yr ŵyl felly fe wnaetho ni benderfynu y byddem yn cymryd rhan yn y cyngerdd gan ei fod yn rhywbeth newydd a ffres." Ychwanegodd trefnydd yr Ŵyl, Dewi Jones, nad oedd yn meddwl y byddai hynny yn amharu llawer ar yr achlysur. "Mae ganddo ni ein dilynwyr blynyddol a chefnogwyr ac fe fyddwn yn gorffen ar nodyn uchel iawn iawn gan fod 'na wyth o gorau cerdd dant. "Mi fydd hi'n fendigedig yno dwi'n gwybod." Fe fydd cystadlu o'r ŵyl i'w glywed ar BBC Radio Cymru am 7pm ac ar S4C am 2.30pm-7pm ac yna o 8.15pm ymlaen ddydd Sadwrn.
|