British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 13 Tachwedd 2009, 11:59 GMT
Llofruddiaeth: Carcharu am oes

Llofrudd yn cael ei ddal ar gamera

Mae dyn o Wlad Pwyl wedi ei garcharu am oes am lofruddio 'Tati' Rodgers cyn claddu ei chorff mewn tir ger Wrecsam.

Cafodd Lukasz Respondek, 30 oed, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug i o leiaf 18 mlynedd o garchar.

Bu Ermatati Rodgers, 41 oed ac yn hanu o Indonesia, ar goll am 14 mis cyn i'r heddlu ddod o hyd i'w chorff ym Mawrth 2009.

Roedd hi wedi bod mewn perthynas â Respondek, gŵr priod â dau o blant.

Clywodd y llys ei fod wedi ei thagu o bosib gyda'i dei.

Dywedodd Mr Ustus Lloyd-Jones fod y diffynnydd yn "gelwyddgi twyllodrus a phenderfynol" ac y dylai'r hyn wnaeth e ei gywilyddio am weddill ei fywyd.

Dylid ei anfon yn ôl i'w wlad, meddai, ar ddiwedd y ddedfryd "er mwyn amddiffyn y cyhoedd rhag troseddu treisgar."

Fe ganmolodd y barnwr ymgyrch yr heddlu a gwaith chwe phlisman yn benodol.

Lukasz Reszpondek
Reszpondek: Honnodd fod Ermatati Rodgers wedi marw o achosion naturiol

Roedd Responkdek wedi honni bod Ms Rodgers wedi marw o achosion naturiol a'i fod wedi cuddio ei chorff mewn panig.

Ond y gwir oedd iddo ei lladd cyn cuddio ei chorff ger hen bwll glo'r Bers.

Pan oedd yn poeni fod yr heddlu ar fin dod o hyd iddi fe geisiodd ei symud. Bu wrthi am dair awr yn ceisio symud y corff ond methodd.

'Oeraidd'

Yna aeth i orsaf yr heddlu.

Roedd yr heddlu wedi amau Responkdek ac wedi defnyddio camerâu cudd wrth olrhain ei symudiadau.

Ar ôl y dyfarniad ddydd Llun dywedodd yr heddwas arweiniodd yr ymchwiliad, y Ditectif Brif Arolygydd Wayne Jones: "O'r diwrnod cyntaf roedd yn amlwg ei fod yn benderfynol, yn oeraidd, ac yn bwriadu rhwystro ein hymchwiliad ni.

"Ei unig gonsyrn oedd gofalu am ei hun - doedd ein hymdrech ni i ddod o hyd i gorff Tati na theimladau ei theulu a'i ffrindiau ddim yn cyfri."



HEFYD
Camerâu yn recordio diffynnydd
20 Hyd 09 |  Newyddion
Cloddio tir: Corff 'Tati'
06 Ebr 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific