British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 13 Tachwedd 2009, 12:23 GMT
Economi: Cyllideb 'ddim yn help'

Arian
Fe fydd aelodau yn pleidleiso ar y fersiwn derfynol ym mis Rhagfyr

Dydi cyllideb ddrafft Llywodraeth y Cynulliad ddim yn gwneud digon i sicrhau bod Cymru yn dod allan o'r dirwasgiad, yn ôl pwyllgor o aelodau'r Cynulliad.

Dywed Pwyllgor Cyllid y Cynulliad nad ydi'r llywodraeth wedi gwneud unrhyw newidiadau allweddol i'r cynlluniau gwariant mewn ymateb i'r sefyllfa economaidd.

Mae'r adroddiad yn cael ei gefnogi gan aelodau Llafur, Ceidwadol a Democrataidd Rhyddfrydol y pwyllgor.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn croesawu'r archwiliad.

Yn yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2010-11, mae gweinidogion yn cael eu beirniadu am gadw at gynlluniau gwariant gafodd ei benderfynu cyn y dirwasgiad yn hytrach na'u haddasu ar gyfer y sefyllfa bresennol.

Addewidion

Mae'r pwyllgor yn bryderus iawn am gynlluniau i arbed 5% yng nghyllidebau prifysgolion a cholegau Cymru'r flwyddyn nesaf ac maen nhw'n bryderus iawn am gyllideb y gwasanaeth iechyd.

Mae'r aelodau am weld y Gweinidog Cyllid, Andrew Davies, yn egluro ei resymau dros gadw at y cynlluniau gwreiddiol.

"Prif sylw'r pwyllgor ydi nad ydi'r gyllideb drafft yn ymddangos fel ei fod yn ymateb i'r hinsawdd anodd wrth i Gymru wynebu'r dirwasgiad gwaethaf ers blynyddoedd," meddai Angela Burns, cadeirydd y pwyllgor.

"Mae'r pwyllgor yn derbyn bod gan y llywodraeth addewid i wireddu addewidion Cymru'n Un ond mae'n anodd ganddo ni gredu sut y bydd y rhain yn cael eu cyflwyno oni bai bod mwy o flaenoriaeth yn cael ei roi i geisio cael Cymru allan o'r dirwasgiad.

"Roeddem yn bryderus am y diffyg eglurdeb o ganlyniad i adnoddau sydd ar gael o ran addysg a'r arbedion ac mae'r pwyllgor eisiau ymchwiliad brys."

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod yn croesawu'r archwiliad.

"Mae'r gweinidog yn ystyried y casgliadau a'r argymhellion sydd yn yr adroddiad ac fe fydd yn ymateb yn ddiweddarach."

Fe fydd y cynulliad yn pleidleisio ar y fersiwn terfynol o'r gyllideb ym mis Rhagfyr.



HEFYD
Cyllideb ddrafft: Rhybudd
05 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific