British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 13 Tachwedd 2009, 09:51 GMT
Erchyllterau: Dangos dyddiaduron

Dyddiaduron Gareth Jones
Dyddiaduron Gareth Jones: 'Dawn 'sgrifennu'

Mae rhai o ddyddiaduron newyddiadurwr o Gymru gafodd ei lofruddio yn 1935 i'w gweld yn gyhoeddus am y tro cyntaf.

Yn ystod y 1930au fe geisiodd Gareth Jones dynnu sylw'r byd at erchyllterau cyfundrefn Stalin a arweiniodd at newyn dychrynllyd yn Yr Wcráin.

Mae'r dyddiaduron i'w gweld nawr yng Ngholeg y Drindod yng Nghaergrawnt.

Roedd Mr Jones yn un o'r newyddiadurwyr gorllewinol cyntaf i adrodd am Newyn Mawr 1932-33 yn Yr Wcráin, yr Holodomor.

'Manylder'

Dywedodd Dr J. Graham Jones o'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth bod y dyddiaduron yn mynd i fanylder mawr wrth ddisgrifio'r tlodi enbyd yr oedd pobl gyffredin yng nghefn gwlad Yr Wcráin yn ei ddiodde.

"Ar yr un pryd roedd llywodraeth Stalin yn allforio graen i'r gorllewin.

"Roedd dawn 'sgrifennu gydag ef, sy'n denu diddordeb".

Gareth Jones (Llun drwy garedigrwydd ei deulu)
Ysgrifennodd Gareth Jones am newyn mawr yr Wcrain yn y 1930au

Oherwydd polisïau Stalin i aildrefnu'r economi amaethyddol bu'r newyn yn Yr Wcráin a laddodd rhwng 5 miliwn a 10 miliwn o boblogaeth y wlad rhwng 1932 a 1933.

Cafodd Mr Jones ei fagu yn Y Barri.

Roedd yn benderfynol pan wnaeth ymweld â'r wlad i addysgu'r byd o'r hyn oedd yn digwydd yno.

Roedd ei fam, Annie Gwen Jones, wedi gweithio i deulu John Hughes am dair blynedd yn Yr Wcráin ac mae'n debyg bod ei diddordeb yn y wlad a'r iaith wedi ei drosglwyddo i'w mab.

Llofruddio

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth a dysgodd Rwsieg cyn mynd allan i'r Wcráin.

Yno daeth wyneb yn wyneb ag amgylchiadau trychinebus ac yn 1933, ar ei drydydd ymweliad, penderfynodd ysgrifennu cyfres o erthyglau i amlygu'r hyn oedd yn mynd ymlaen yno.

Cafodd nifer o'i erthyglau, oedd yn datgelu troseddau'r llywodraeth yn erbyn dynoliaeth, eu hatal ac fe gafodd Mr Jones ei ddirmygu a'i wawdio gan ei gydweithwyr a oedd yn gwadu'r hil-laddiad.

Cafodd ei lofruddio yn 1935 mewn amgylchiadau amheus yn ôl ei deulu tra ar ymweliad â Mongolia.

Roedd yn ymchwilio i fwriad Japan i ehangu ei thiriogaeth.

Wedi 16 niwrnod yn nwylo'r Cheiniaid cafodd ei ladd, ar drothwy ei benblwydd yn 30 oed.



HEFYD
Cofio newyddiadurwr arwrol
02 Mai 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific