Mae miloedd o fabanod sy'n cael eu geni yn gynnar yn ddibynnol ar yr unedau
|
Mae angen mwy o arian ar gyfer gwella gwasanaethau i fabanod sy'n cael eu geni yn gynnar. Dyna neges elusen Bliss sy'n helpu babanod cynnar. Maen nhw'n dweud nad oes 'na adnoddau digonol wedi bod mewn unedau newyddenedigol yn ysbytai Cymru ers 30 mlynedd. Wrth i fwy o fabanod gael eu geni yng Nghymru mae'r elusen yn rhagdybio y bydd 'na fwy o bwysau ar yr unedau. Maen nhw'n galw am fwy o staff arbenigol a gwell trafnidiaeth rhwng ysbytai. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio ar welliannau. Mewn adroddiad i nodi penblwydd Bliss yn 30 oed, dywed yr elusen bod problemau yn dyddio ymhellach na 1979 pan gychwynnodd. Croesawu'r arian Yng Nghymru mae 4,000 o blant yn cael eu geni yn gynnar neu'n wael bob blwyddyn ac yn ddibynnol ar ofal arbenigol ysbyty. Yn Lloegr a'r Alban mae 'na wasanaeth trafnidiaeth 24 awr y dydd er mwyn trosglwyddo mam a'i phlentyn rhwng ysbytai i gael y gofal cywir pan fo angen. Dywed Bliss bod y £2 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ebrill "i'w groesawu" ond dim ond am 12 awr y dydd y byddai modd gael gwasanaeth trafnidiaeth ac na fyddai o gymorth i'r plant sy'n cael eu geni yn y nos. "Fe fydd rhaid i blant sy'n cael eu geni yn y nos fod yn ddibynnol ar wasanaeth eilradd ac o bosib yn colli allan ar y driniaeth angenrheidiol," meddai'r elusen. Cafodd Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Cynulliad ym mis Rhagfyr 2008 gan nodi bod gwasanaethau gofal arbenigol i fabanod yng Nghymru yn wynebu argyfwng. Roedd yn croesawu gwasanaeth trafnidiaeth benodol, gofal nyrsio un i un a chynnydd ar y gofal i'r teulu cyfan. 'Cam pwysig' Yn ôl Andy Cole, prif weithredwr Bliss, mae'r adroddiad a'r cyllid yn "gam pwysig ymlaen". "Ond mae 'na ffordd bell eto. "Rydym yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i roi'r gofal gorau posib i'r babanod mwyaf bregus ac i'w teuluoedd i'r safon uchaf posib a buddsoddi ym mhlant y dyfodol." Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad bod Bliss wedi cymryd rhan mewn grŵp arbenigol oedd yn cynnig syniadau ar y ffordd orau ymlaen. "Mae'r Gweinidog Iechyd yn ystyried yr adroddiad ar hyn o bryd. "Fe fydd rhwydwaith o glinigau ac unedau newydd-anedig mewn ysbytai yn datblygu'r ansawdd gorau o ofal i blant gaiff eu geni. "Fe fydd cyflwyno gwasanaeth trosglwyddo 12 awr y dydd yn caniatáu datblygu gwasanaeth cynaliadwy yng Nghymru ac yn darparu hyfforddiant i staff presennol a fydd yn arwain gobeithio at wasanaeth 24 awr."
|