Gall system newydd olygu bod gyrwyr yn gallu defnyddio cerdyn i dalu
|
Mae caniatáu i yrwyr sy'n teithio rhwng de Cymru a Lloegr dalu toll â cherdyn gam yn nes. Ar hyn o bryd rhaid i yrwyr dalu ag arian parod neu ddyfais electroneg. Ond mae Llywodraeth San Steffan yn ceisio newid deddf sy'n atal defnyddio cardiau credyd neu ddebyd. Mae gweithgor wedi sefydlu y bydd modd derbyn cardiau mewn egwyddor. Dywedodd Asiantaeth y Priffyrdd fod "gwelliannau" wedi cael eu cynnig er mwyn caniatáu defnyddio cardiau yn y tollbyrth. Mae codi tâl ar y ddwy bont yn rhan o Ddeddf Pont Hafren 1992. Dywedodd rheolwr cyffredinol Severn River Crossing, Jim Clune, ei fod yn disgwyl y byddai modd derbyn cardiau rywbryd yn 2010. 'Symud ymlaen' "Rhaid i'r Senedd yn Llundain dderbyn y cynnig a rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ei gymeradwyo. "Rydyn ni'n falch ond mae angen gwaith ymarferol yn y tollau, gosod yr offer yn ei le. "Yn fy marn i, fydd hyn ddim yn digwydd cyn ail hanner y flwyddyn nesaf. "Ond rydyn ni wedi symud ymlaen ers y llynedd."
Gweithgor: Pa mor ymarferol yw defnyddio cerdyn?
|
Cafodd gweithgor ei sefydlu ym mis Tachwedd 2007. Roedd 'na gynrychiolwyr o Asiantaeth y Priffyrdd, Severn River Crossing, Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth San Steffan. Fe gafodd yr argymhellion eu cyflwyno i'r asiantaeth ym mis Hydref 2008. Dywedodd yr asiantaeth y byddai trafododaethau â Severn River Crossing yn parhau. "Unwaith y bydd y trafod yn dod i ben, yn bennaf am y costau, gallwn ni benderfynu pryd i gyflwyno'r taliadau newydd." Dywedodd Adrian Tink o gymdeithas yr RAC, fod tollbyrth eraill prif ffyrdd yn derbyn taliadau cardiau. "Rydyn ni'n croesawu'r cam diweddara gan ei fod yn rhoi mwy o ddewis i'r gyrrwr."
|