British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 12 Tachwedd 2009, 18:13 GMT
Chwech oedd â ffliw moch wedi marw

Brechiad Ffliw Moch
Daeth cadarnhad am y marwolaethau diweddara yn yr wythnos ddiwethaf

Cafwyd cadarnhad bod 'na chwe pherson oedd yn diodde o'r ffliw moch yng Nghymru wedi marw.

Mae cyfanswm o 14 o bobl oedd â symptomau'r ffliw wedi marw erbyn hyn yng Nghymru.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru bod Cymru "yn yr ail don" o achosion a bod disgwyl mwy o farwolaethau.

Does 'na ddim mwy o fanylion wedi cael eu rhyddhau am y marwolaethau.

Cafodd Llywodraeth y Cynulliad gadarnhad swyddogol o'r marwolaethau ers yr adroddiad diwethaf.

Mae 'na gadarnhad hefyd bod 'na berson o Gymru wedi marw dramor.

Daw'r marwolaethau diweddara ar ôl i nifer yr achosion o'r ffliw moch yng Nghymru ddechrau gostwng.

"Wrth i nifer yr achosion gynyddu, rydym yn debygol o weld mwy o bobl yn diodde cymhlethdodau.... a mwy o farwolaethau.

"Mae 'na 14 o bobl wedi marw bellach yng Nghymru ac fe fydd hyn yn dal i godi dros gyfnod."

Eglurodd Ms Hart bod y ffigyrau diweddara am salwch tebyg i'r ffliw ar gynnydd a'u bod yn uwch na'r ffigyrau arferol am y cyfnod yma o'r flwyddyn.

Ychwanegodd bod y ffliw moch yn dal yn fygythiad gwirioneddol i bobl ifanc, merched beichiog a phobl sydd â phroblemau meddygol.

Yn ôl ffigyrrau diweddara'r llywodraeth roedd 71 o bobl mewn ysbytai yng Nghymru yn diodde o symptomau'r ffliw, 20 mewn cyflwr difrifol a 34 yn diodde o broblemau iechyd eraill.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific