Fe dderbyniodd Gwasanaeth Tân Gorllewin Cymru a'r Canolbarth tua 140 o alwadau yn ymwneud a llifogydd
Mae rhybudd o dywydd garw yn parhau ddydd Sadwrn, ar ôl i law trwm achosi llifogydd mewn sawl man nos Wener. Dywed y Swyddfa Dywydd y bydd gwyntoedd o hyd at 80 milltir yr awr yn effeithio rhai mannau ar yr arfordir, a bydd gwyntoedd o rwng 65-75 mya mewn mannau eraill. Nos Wener bu'n haid i wasanaeth tan y Gorllewin a'r Canolbarth ateb 140 o alwadau yn ymwneud a llifogydd, y rhan fwyaf yn Sir Benfro. Bnawn Sadwrn dywed Asiantaeth yr Amgylchedd fod rhybudd llifogydd mewn dwy ardal rhybywdd i ddegau o ardaloedd eraill i gadw llygad ar y sefyllfa Roedd rhybudd llifogydd ar gyfer Dinbych y Pysgod, a Dyffryn Dyfrdwy rhwng Llangollen a Chaer. Yn Hwlffordd, Sir Benfro, fe lwyddodd diffoddwyr i achub 12 o bobl oddi ar fws, oedd wedi ei ddal mewn llifogydd. Yn ardal Rosemarket bu'n rhai defnyddio cwch i achub dynes o'i char. Fe wnaeth glaw trwm effeithio ar Benfro, Ddinbych y Pysgod, Arberth, Caerfyrddin, Cydweli, Abertawe, a Chaerffili. Roedd llifogydd ar yr A478 a'r A40 i'r ddau gyfeiriad ger Cylchfan Penblewyn. Rhagolygon Achoswyd difrod i wersyll gwyliau Carmarten Bay Holiday Park yng Nghydweli yn Sir Gaerfyrddin. Bu problemau hefyd yn ardal Ystrad Mynach, Caerffili, a Casllwchwr, ger Abertawe. Yn y gogledd bu'n rhaid i'r Gwasanaeth Tan achub dyn o'i garafán yn Pen-y-pas ger Llanberis. Roedd o wedi mynd i'w garafán wrth i lefel y dŵr godi. Mae rhagolygon yn dweud bod disgwyl glaw trwm tan ddydd Llun. Oherwydd y glaw ddydd Iau roedd tirlithriad ger Cas-gwent effeithiodd ar y gwasanaeth rheilffordd rhwng Casnewydd a Chaerloyw. Bu'n rhaid atal gwasanaethau am gyfnod. Roedd cwmni Trenau Arriva Cymru wedi trefnu gwasanaeth bws dros dro. Y cyngor i bobl yw gwrando ar adroddiadau tywydd a chadw golwg ar wefan yr asiantaeth neu ffonio'r llinell wybodaeth ar 0845 9 88 11 88.
|