Adeiladwyd y maes awyr yn 1938 a'i ddefnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd
|
Mae cais am drwydded i ddefnyddio hen safle'r weinyddiaeth amddiffyn yn Llanbedr, ger Harlech, wedi ei wrthod. Ddydd Iau penderfynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrthod cais am dystysgrifau defnydd cyfreithiol. Yn ôl llefarydd ar ran yr Awdurdod gwnaed hyn ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol. Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni y byddant yn parhau â'u cynlluniau ar gyfer maes awyr preifat ond y bydd penderfyniad heddiw yn golygu oedi ac o bosib ymchwiliad cyhoeddus. Cafodd y safle ei gau yn 2004 a'i werthu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i Kemble Air Service yn 2008. Dywed y datblygwyr y byddai ailagor y safle yn creu cannoedd o swyddi. Yn ôl llefarydd cafodd y cwmni ei "synnu o glywed penderfyniad yr Awdurdod. "Mae'n ymddangos nawr y bydd yna ragor o oedi cyn y gallwn fuddsoddi a rhoi bywyd newydd i'r safle."
 |
Y broblem ar hyn o bryd yw bod pobl ifanc yn gadael oherwydd prinder swyddi
|
Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod bod gan y cwmni nifer o opsiynau. Mae'r rhain yn cynnwys apelio yn erbyn y penderfyniad, gwneud cais am drwyddedau o'r newydd neu wneud cais cynllunio. "Oherwydd mai ceisiadau am Dystysgrifau Defnydd Cyfreithiol yw'r rhain, nid yw hyn yn arwydd o safiad yr Awdurdod o blaid nac yn erbyn priodoldeb unrhyw fath o ddatblygiad ar y safle yn Llanbedr yn y dyfodol, " meddai'r llefarydd. Dywedodd y cynghorydd sir Evie Morgan Jones fod angen datblygiad o'r fath a bod pobl leol o'i blaid. Trafodaeth gyhoeddus "Mae'n golygu mwy o swyddi. Y broblem ar hyn o bryd yw bod pobl ifanc yn gadael oherwydd prinder swyddi." Ond dywedodd Cymdeithas Eryri, sy'n gwrthwynebu'r cynllun, eu bod nhw'n croesawu'r penderfyniad. "Mae'n fater cynllunio," meddai cyfarwyddwr y Gymdeithas Alun Pugh. "Yn ddiweddar roedd y safle yn cael ei ddefnyddio gan y llu awyr ar gyfer math arbennig o ymchwil a datblygiad. "Ond dyw hynny ddim yn rhoi rhwydd hynt i rywun arall gynnal pob math o weithgareddau hedfan ar y safle. "Mae'r Gymdeithas am gael trafodaeth gyhoeddus a'r unig ffordd o sicrhau hynny yw gofyn am gais cynllunio."
|