Fe ymwelodd Gareth Thomas â'i deulu y noson cyn iddo farw
|
Mae ymgyrch i dynnu sylw at y nifer o bobl ifanc sy'n marw'n sydyn o glefyd y galon wedi cael ei lansio. Dywed ymgyrchwyr bod 12 o bobl ifanc yn marw bob wythnos yn y DU o'r cyflwr yma, cynnydd o 50% ar yr hyn gredwyd yn flaenorol. Bu farw Gareth, mab 21 oed Anna Thomas, o'r cyflwr ddwy flynedd a hanner yn ôl. "Mae fel golau'n cael ei ddiffodd - ac wedi cwrdd â theuluoedd eraill, dyna'n union sy'n digwydd," meddai Ms Thomas. Roedd Gareth, o Lantrisant, yn byw gyda ffrindiau yng Nghaerdydd wedi iddo raddio o Brifysgol Aberystwyth, pan fu farw. Yn ôl Ms Thomas, sy'n nyrs, roedd ei mab newydd ddychwelyd o daith sgïo pythefnos. Roedd wedi ei weld deirgwaith yn ystod yr wythnos cyn ei farwolaeth, gan gynnwys y noson flaenorol. 'Hunllef pob rhiant' "Fe welsom ef ar ganol nos gan iddo alw adre wedi gwylio'r rygbi. "Fe ffarweliodd a dychwelyd i'w dŷ yng Nghaerdydd yr oedd yn ei rannu gyda ffrindiau a'r noson honno fe gawsom gnoc ar y drws." Ychwanegodd iddi ddioddef "hunllef pob rhiant, y gnoc ar y drws gan ddau heddwas". "Roedd yn iach iawn, yn chwarae pêl-droed bob wythnos, ac wedi gwneud hynny ers blynyddoedd."
Fe wnaeth chwaer Gareth, Sian, areithio ar bedwaredd colofn Sgwâr Trafalgar
|
Mae'r teulu wedi bod yn weithgar gyda'r elusen Cry (Cardiac Risk in the Young), sy'n ymdrin â marwolaeth sydyn o glefyd y galon. Wrth dalu teyrnged ar wefan Cry, ysgrifennodd Ms Thomas: "Ni fyddwn byth yn dod dros erchylltra'r noson honno ac ond yn gallu dychmygu sut yr oedd hi i ffrindiau Gareth." Yn ddiweddar fe wnaeth chwaer Gareth, Siân, areithio ar bedwaredd golofn Sgwâr Trafalgar er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr. Dywed Cry bod ymwybyddiaeth o farw'n sydyn o glefyd y galon ymysg yr ifanc yn isel yng Nghymru gyda dros hanner y bobl a holwyd heb fod yn ymwybodol o raddfa'r marwolaethau. Mae'r mudiad am ddatguddio fersiwn maint poster o gerdyn post sydd wedi ei gynhyrchu ganddyn nhw sy'n cynnwys lluniau 12 o bobl ifanc o Gymru gollodd eu bywydau'n sydyn a hynny heb fod neb wedi sylwi bod rhywbeth yn bod ar eu calonnau. Caiff y poster ei ddadorchuddio mewn seremoni yng ngwesty'r Novotel, Caerdydd.
|