Mae llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru wedi ymddiheuro am na wnaeth carfan Cymru barchu'r ddau funud o dawelwch i gofio Dydd y Cadoediad a diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf 91 mlynedd yn ôl.
Roedd tîm pêl-droed Cymru'n hyfforddi ar yr un cae a'r chwaraewyr rygbi, ac fe safodd y pêl-droedwyr yn stond am 11am.
Mewn datganiad dywedodd Hyfforddwr Cymru Warren Gatland ei fod yn ymddiheuro'n ddiffuant ar ran y garfan a'r tîm hyfforddi.
Dywedodd ei fod yn beth esgeulus i'w wneud, a'u bod nhw'n llwyr ymwybodol o bwysigrwydd y diwrnod a'u bod nhw wedi adlewyrchu hynny yn eu gweithgareddau dros y blynyddoedd, yr wythnosau a'r dyddiau diwethaf.