British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2009, 19:43 GMT
Carchar i frodyr am ladrad arfog

Yr olygfa yn Llansawel (Llun: Steve Bray)
Roedd nifer o heddlu tu allan i'r swyddfa bost yn dilyn y lladrad ar Fai 6

Mae dau frawd wnaeth ddwyn o swyddfa bost yng Nghastell-nedd a hynny mewn modd treisiol wedi cael eu carcharu yn Llys y Goron Abertawe.

Fe wisgodd Ryad a Richard Morgan, 28 a 25 oed, falaclafas duon gan gario cleddyf Samurai a gwn i'r gangen yn Llansawel.

Fe wnaethon nhw glymu'r postfeistr Andrew Ball a'i orchymyn i roi £26,000 iddynt, gan ei anafu yn y broses.

Cafodd Ryad Morgan, a wadodd ei ran yn y digwyddiad, ei garcharu am 12 mlynedd ac fe gafodd Richard Morgan, blediodd yn euog, ei garcharu am saith mlynedd.

Clywodd y llys bod Mr Ball wedi dioddef "profiad wnaeth newid ei fywyd" a'i fod wedi gorfod cael llawdriniaeth blastig ar yr anafiadau i'w wyneb.

Dywedodd mewn datganiad: "Ni wnaf fyth anghofio'r gwylltineb yn llygad y dyn gyda'r cleddyf [Ryad Morgan]."

Disgrifiodd y barnwr, Mr Ustus John Griffith Williams, Ryad Morgan, o Lansawel, fel dyn peryglus.

Yn ystod yr achos fe glywodd y rheithgor i'r pâr aros i Mr Ball gyrraedd y gwaith.

Fe wnaethant ei wthio i mewn i'r swyddfa bost a'i glymu.

Yr heddlu tu allan i'r swyddfa bost (Llun: Steve Bray)
Clywodd y llys bod Mr Ball wedi dioddef "profiad wnaeth newid ei fywyd"

Roedd Ryad Morgan wedi ei gicio yn ei wyneb, gan dorri ei drwyn, gyda'i frawd yn arddangos y gwn o flaen ei wyneb fel pe bai am saethu.

Fe wnaethant ddianc ond roedd swyddog o'r heddlu wedi gweld Richard Morgan, o Bort Talbot, ger y swyddfa bost a theirawr yn ddiweddarach fe dorrodd yr heddlu i mewn i'w gartref lle darganfuwyd Morgan yn cuddio yn y llofft.

Fe ddarganfuwyd yr arian hefyd, ynghyd â'r ddau falaclafa.

Fe glywodd Ryad Morgan fod yr heddlu ar ei ôl ac fe aeth i swyddfa'r heddlu'r diwrnod canlynol, ond gan wadu ei fod ag unrhyw beth i'w wneud â'r digwyddiad.

Ond, meddai Mr Ustus Williams, roedd hyd yn oed ei frawd ei hun wedi dweud wrth yr heddlu ei fod yno.

Dywedodd Mr Ustus Williams nad oedd amheuaeth ganddo mai Ryad Morgan oedd y tu ôl i'r lladrad.

Roedd ganddo gyhuddiad eisoes am ymosodiad corfforol difrifol ynghyd â sawl ymosodiad ac fe ddyfarnodd y barnwr ei fod yn unigolyn peryglus.



HEFYD
Lladrad arfog: Cyhuddo ail ddyn
09 Mai 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific