British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 12 Tachwedd 2009, 08:53 GMT
Comisiwn: 'Cymru carbon isel'

Paneli solar
Comisiynydd: 'Angen gwneud ffyrdd o fyw carbon isel yn llawer haws i'r cyhoedd'

Bydd adroddiad sy'n rhoi cyngor ar sut y gall pob rhanbarth yng Nghymru leihau allyriadau carbon yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.

Mae ceir trydan, bwyd lleol a chartrefi wedi'u hinswleiddio yn rhan o weledigaeth 'Cymru carbon isel' y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy.

Dywedodd Jane Davidson, Gweinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, y gallai'r adroddiad helpu Cymru gyrraedd y nod o leihau allyriadau o 3%.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio y bydd angen gwneud hi'n haws i bobl fyw bywyd carbon isel er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Blaenoriaethau rhanbarthol
Canolbarth Cymru - Diogelu carbon a gaiff ei storio yn y pridd, gwneud y gorau o fuddiannau ynni adnewyddol
Gogledd-ddwyrain - Cynyddu effeithlonrwydd adnoddau mewn diwydiant
Gogledd-orllewin Cymru - Hyrwyddo bwyd lleol, cynhyrchu trydan carbon isel, diogelu carbon y pridd
Sir Benfro - Gweithio gyda diwydiant i ddatblygu atebion carbon isel. O ran trafnidiaeth - fideo-gynadledda a mannau ail-drydanu cerbydau trydan
De-ddwyrain Cymru - Canolbwyntio ar deithio e.e. drwy deleweithio a hyrwyddo newid tuag at ddewisiadau carbon is fel rhannu ceir, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus
Bae Abertawe a'r Cymoedd Gorllewinol - Gweithio tuag at economi carbon isel: cefnogi ymchwil a datblygu technolegau carbon isel

Dywedodd Peter Davies, Comisiynydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy Cymru, mai hwn yw'r tro cyntaf i unrhyw un weithio allan sut y gall pob rhanbarth yng Nghymru leihau allyriadau carbon i'r graddau sydd eu hangen, yn y ffyrdd sy'n gweddu orau i'r ardal honno.

"Mae pob rhan o Gymru'n unigryw - nid yw'n ddigon rhoi'r un cyngor i rywun yn Sir Benfro â rhywun yng Nghaerdydd neu Ddolgellau. "

Cynhyrchwyd yr adroddiad ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad.

Clytiau ynysig

Mae'r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy hefyd yn argymell gweithredu ledled Cymru mewn meysydd fel adnewyddu tai, thrafnidiaeth gyhoeddus a chynhyrchu bwyd yn lleol.

Cafodd yr adroddiad ei groesawu gan Andrew Davies y Gweinidog dros Gyllid a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

"Mae'r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy wedi nodi bod llawer o fentrau da ar gyfer lleihau allyriadau carbon yng Nghymru.

"Fodd bynnag, mae'r rhain yn aml mewn clytiau ynysig.

"Nawr mae angen i ni wella'r arfer da er mwyn cael effaith ystyrlon ar leihau allyriadau carbon."



HEFYD
Barn ymgeiswyr ar yr amgylchedd
09 Tach 09 |  Newyddion
Yr iaith 'mor bwysig â'r amgylchedd'
22 Mai 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific