British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 12 Tachwedd 2009, 07:13 GMT
Menter £3.6m ar hen safle Burberry

Ffatri Burberry yn Nhreorci
Fe wnaeth y ffatri gau ym mis Mawrth 2007

Bydd menter newydd sy'n werth £3.6m yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau ar gyfer hen safle ffatri Burberry yn Nhreorci, Cwm Rhondda.

O dan yr enw newydd Parc Busnes Treorci, caiff y safle ei ailwampio a'i drawsffurfio'n ganolfan busnes gyda 15 o unedau diwydiannol ar gyfer mentrau lleol.

Fe gaeodd y ffatri ym mis Mawrth 2007 a chollodd 300 eu gwaith wrth i'r cwmni symud y gwaith i China.

Bu ymgyrch hir i gadw'r safle ar agor ac enwogion, gan gynnwys Ioan Gruffudd, Rhys Ifans, Bryn Terfel, Syr Alex Ferguson a Syr Tom Jones, yn ei chefnogi.

Yn y diwedd, cytunodd Burberry gynnig amodau diswyddo gwell i'r gweithwyr a rhoi arian i'r gymuned leol.

Y gobaith yw y daw cannoedd o gyfleoedd am swyddi i 'r safle, medd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC.

15 o unedau

Bydd gwaith yn cychwyn i ddatblygu'r safle, , 90,000 troedfedd sgwâr o ofod a thua 10,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd, ym mis Rhagfyr eleni.

Dau ddyn busnes lleol, Michael Henderson a Robert Kearns, fydd yn arwain y prosiect.

Maen nhw hefyd wedi buddsoddi yn sylweddol yn y fenter.

"Mae'r datblygiad cyffrous hwn yn enghraifft berffaith o sut gallai'r sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru weithio law yn llaw i adfywio safleoedd mae cwmnïau rhyngwladol wedi'u gadael er mwyn cyrchu llafur rhad dramor," meddai Mr Kearns.

'Ffyniant ychwanegol'

Bydd y fenter yn derbyn bron i £2 filiwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd Cydgyfeirio drwy Lywodraeth y Cynulliad.

Mae'r prosiect hefyd wedi derbyn £118,550 o raglen Blaenau'r Cymoedd.

Y bwriad yw denu busnesau lleol drwy gynnig unedau o ansawdd am bris cystadleuol.

Dywedodd Mr Jones, sy'n Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: "Bydd y safle'n darparu cyfleoedd gwaith cynaliadwy newydd, wedi'u creu drwy bartneriaeth ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i gefnogi busnesau ac entrepreneuriaid lleol fydd, yn eu tro, yn dod â ffyniant ychwanegol i'r gymuned gyfan."



HEFYD
Gwario £2.5m ar safle Burberry
18 Medi 07 |  Newyddion
Burberry: Protest 'fydeang'
14 Chwef 07 |  Newyddion
Burberry: 'Ffatri i'r gymuned'
26 Ion 07 |  Newyddion
Brwydr i achub ffatri Burberry
07 Medi 06 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific