British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2009, 16:00 GMT
Urdd: Edryd wrth y llyw

Edryd Eynon
Edryd: 'Fe ges i brofiadau gwerthfawr gyda'r Urdd'

Edryd Eynon fydd Llywydd Urdd Gobaith Cymru am flwyddyn.

Is Lywyddion y mudiad yw Eirian Jones o Ynys Môn a Bethan Mair Williams o Gaerdydd.

Fe aeth Edryd i Ysgol Beca, Efailwen yn Sir Benfro, ac Ysgol Uwchradd y Preseli cyn graddio yn y Gymraeg a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Ar ôl cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd am flynyddoedd mae'n hyfforddi plant ar gyfer yr ŵyl gan ei fod yn athro yn Ysgol Gynradd Bro Brynach, Llanboidy ger San Clêr.

Mae'n aelod o Bwyllgor Cylch Cwm Taf yn ogystal â Phwyllgor Rhanbarthol Sir Benfro.

'Braint'

Fe yw Arweinydd Adran ac Aelwyd Ffynnonwen lle mae'n trefnu gweithgareddau amrywiol bob wythnos.

''Wedi cystadlu'n gyson fel unigolyn ac mewn grwpiau yn Eisteddfod yr Urdd braint yw cael rhannu 'y mhrofiadau â'r to iau yn Ysgol Bro Brynach ac yn Adran ac Aelwyd Ffynnonwen," meddai Edryd.

"Fe ges i brofiadau gwerthfawr gyda'r Urdd dros y blynyddoedd ac anrhydedd fydd cael bod yn llywydd dros y flwyddyn sydd i ddod."

Dywedodd y prif weithredwr, Efa Gruffudd Jones: ''Braint yw gweld unigolyn sydd wedi bod mor weithgar yn enw'r Urdd yn cael ei ethol yn llywydd.

"Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio ag Edryd ac rwy'n siŵr y bydd ei frwdfrydedd, ei egni a'i gefndir o fudd iddo dros y flwyddyn sydd i ddod.''



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific