British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2009, 15:18 GMT
Diweithdra'n waeth yng Nghymru

Canolfan gwaith
Mae 125,000 o bobl Cymru yn cael eu hystyried yn ddi-waith

Mae'r ystadegau diweithdra, gafodd eu cyhoeddi ddydd Mercher, yn dangos cynnydd sylweddol yng Nghymru.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau fod 125,000 o bobl Cymru'n ddi-waith - cynnydd o 14,000 yn y tri mis hyd at fis Medi.

Fe gafodd mwy o swyddi eu colli yng Nghymru nag yn unrhyw genedl na rhanbarth arall yn y pedair gwlad.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad fod yr ystadegau diweddara'n "siomedig".

Ond nid oedden nhw, meddai llefarydd, yn adlewyrchu'r sefyllfa ar hyd y flwyddyn.

"Mae gostyngiad cyfradd gyflogaeth Cymru drwy gydol y flwyddyn ymhlith y lleiaf o'i gymharu â gweddill Prydain."

Yn y pedair gwlad roedd cynnydd o 30,000 yn nifer y di-waith, y cynnydd lleiaf ers Mai 2008, a'r cyfanswm oedd 2.46 miliwn.

Cyfradd o 8.7%

Yng Nghymru mae cyfradd ddiweithdra yn 8.7% tra bod 7.8% yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr.

Dywedodd llefarydd economi'r Ceidwadwyr, David Melding: "Mae angen atebion ynghylch pam y mae mwy o swyddi yn cael eu colli yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig."

Mae Jenny Randerson AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud ei bod yn poeni "fod mwy o ddiweithdra ymysg pobl ifanc".

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad nad oedd diffiniad y Swyddfa Lafur Ryngwladol o ddiweithdra'n ystyried unrhyw newid mewn anweithgarwch economaidd.



HEFYD
Diweithdra i lawr yng Nghymru
12 Awst 09 |  Newyddion
'Hanner y di-waith o dan 25 oed'
03 Meh 09 |  Newyddion
Diweithdra: Ar ei ucha ers degawd
21 Ion 09 |  Newyddion
Y lefel ucha o ddiweithdra ym Merthyr
29 Hyd 02 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific