Bws Sherpa yn teithio drwy Barc Cenedlaethol Eryri
|
Bydd bysiau ychwanegol yn cael eu darparu wedi cwynion gan gerddwyr sy am fentro i fynydd ucha Cymru yn y gaeaf. Roedd nifer wedi cwyno nad oedd yr amserlen yn gadael digon o amser i gerdded i frig copa'r Wyddfa ac yn ôl. Mae'r gwasanaeth Sherpa yn cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng cynghorau Gwynedd a Chonwy a Pharc Cenedlaethol Eryri. Dywedodd June Figg, cadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Betws-y-Coed bod yr amserlen newydd yn gyfaddawd da. Roedd Ms Figg wedi pryderu y byddai'r newidiadau gwreiddiol yn golygu mai dau ddewis fyddai gan gerddwyr sy'n aros ym Metws-y-Coed. Dywedodd nad oedd yr un o'r ddau opsiwn yn gyfleus, gydag un o bosib yn beryglus gan nad oedd yn gadael digon o olau dydd i gerddwyr gael dringo'r Wyddfa.
Mae'r amserlen ddiwygiedig yn golygu fod y bws Sherpa 8.45am o Fetws-y-Coed yn cael ei ddargyfeirio i redeg yn uniongyrchol i Ben y Pass a Llanberis, gyda gwasanaeth ychwanegol am 8.55am o Gapel Curig i Fethesda. Dywedodd Ms Figg, sy'n berchen ar westy ym Metws-y-Coed: "Yn amlwg mae'n anodd cael y cydbwysedd cywir gan mai cyfyngedig yw'r arian sydd ar gael, ond mae hwn yn gyfaddawd da. Mwy o fysiau "Yr unig broblem yn awr yn bod yr amserlenni wedi eu hargraffu, felly ni fydd pobl yn gwybod am y gwasanaeth ychwanegol - ond rydym yn gwneud ein gorau i ledaenu'r wybodaeth," ychwanegodd. Mae yna ychwanegiadau eraill i amserlen y bysiau dros y gaeaf. Yng Nghonwy bydd gwasanaeth newydd yn rhedeg ar ddydd Mawrth rhwng Llanrwst a Chorwen, gan adael Llanrwst am 9.05am a 1.05pm, a gadael Corwen am 10.10am a 2.10pm. Mae bws 25 wedi ei ymestyn o ddydd Llun i ddydd Sadwrn i ddechrau am 9.07am o'r Hen Efail yn hytrach na Eglwysbach. Mae bysiau Arriva hefyd wedi ail-ddechrau'r gwasanaeth 9/9 o Langefni, Ynys Môn i Landudno am 9.40am o Langefni, ddydd Llun i ddydd Gwener, gan ddychwelyd am 1.15pm o Landudno, ond gyda chwe siwrnai bob ffordd ar ddyddiau Sadwrn. Dywedodd Goronwy Edwards, aelod cabinet Conwy dros y gymuned: "Rydym yn ddiolchgar am yr adborth a ddarparwyd gan ddefnyddwyr y bysiau a grwpiau cymunedol i'n gwasanaeth datblygu cymunedol. "Mae'r sylwadau yna wedi arwain yn uniongyrchol at y gwelliannau yma i amserlen y bysiau."
|