Fe allai Bodelwyddan gael hyd at 2,000 o dai ychwanegol
|
Bu swyddogion Cyngor Sir Ddinbych mewn cyfarfod cyhoeddus nos Fercher yn trafod cynigion allai olygu treblu maint pentre Bodelwyddan ger Llanelwy o fewn 12 mlynedd. Roedd dros 100 o bobl yn y cyfarfod yng Nghanolfan Gymunedol Bodelwyddan, gyda'r mwyafrif llethol yn gwrthwynebu'r synaid. Oherwydd ei gynllun datblygu lleol mae'r cyngor yn honni y gellid codi hyd at 2,000 o dai ychwanegol ym Modelwyddan. Dechreuodd ymgynghoriad ym mis Hydref ac fe allai'r cynigion olygu ysgol gynradd newydd, cartref gofal a chyswllt newydd o'r A55. Mae ymgyrchwyr wedi dweud bod y cynigion yn "anghynaliadwy" ac wedi'i seilio ar hen wybodaeth. Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd yna 895 o dai ym Modelwyddan. Mae'r grŵp gweithredu wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn ystod y misoedd diwethaf. 6,000 Dywedodd ei sylfaenydd, Alice Jones, fod y cynigion yn cynnwys adeiladu 1,715 o dai newydd ac y gallai'r boblogaeth o 1,000 godi i 6,000 o fewn 12 mlynedd. Mae'r grŵp wedi galw am ddatblygiad ar raddfa lai ac wedi honni bod gwasanaethau cyhoeddus eisoes o dan straen ac na fyddai'r A55 yn ymdopi â'r traffig. Yn ôl y cyngor mae'r cynllun a'r gyfer datblygiad y sir gyfan. Ychwanegodd llefarydd y byddant yn ystyried ac yn ymgynghori a chymunedau lleol.
|