Canolfannau magu: A oes angen rheolau mwy llym?
|
Fe allai mesurau mwy llym ddod i rym mewn ymdrech i reoli canolfannau magu cŵn yng Nghymru. Ddydd Mercher mae disgwyl i'r Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, gyhoeddi adolygiad o'r modd mae cŵn yn cael eu magu'n fasnachol ar ôl i dystiolaeth newydd ddod i law. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried y gyfundrefn drwyddedu sy'n bodoli ar hyn o bryd a'r posibilrwydd o orfodi pob ci i gael tag electroneg. Mae ymchwil gan awdurdodau lleol yn awgrymu bod tua 250 o lefydd yng Nghymru sy'n magu cŵn yn fasnachol, ond sydd heb eu trwyddedu. Er nad oes yna dystiolaeth fod yna achosion o greulondeb yn y canolfannau didrwydded dywed Ms Jones fod angen ymchwiliad pellach oherwydd y nifer uchel dan sylw. "Tra bod magu cŵn i'w gwerthu yn rhywbeth gwbl gyfreithlon, dyw hi ddim yn dderbyniol nad oes yna unrhyw ystyriaeth o les yr anifeiliaid mewn canolfannau magu masnachol," meddai Ms Jones. Eisoes mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sefydlu grwp arbennigol er mwyn asesu gwir faint y broblem. Mae elusen yr RSPCA wedi croesawu'r arolygiad. "Mae yna nifer uchel o ganolfannau magu, yn enwedig yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro," meddai Gethin Russell-Jones o'r RSPCA. "Yn aml mae'r anifeiliad yn cael eu cad mewn amgylchiadau ofnadwy, ac maen nhw'n diodde. Fe fydd angen i Lywodraeth y Cynulliad ofyn am bwerau gan San Steffan i greu deddfwriaeth newydd, ac fe allai newidiadau gymryd cryn dipyn o amser i'w gwireddu.
|