|
Aled ap Dafydd
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
|
Y tri yn y ras i olynu Rhodri Morgan
|
Efallai y dylai'r rhai sydd â'u bryd ar fod yn Brif Weinidog Cymru edrych ar esiampl Ysgol Glancegin. Am fwy na dwy flynedd roedd yr ysgol o dan fesurau arbennig wedi adroddiad damniol Estyn. Yr adeg honno dim ond 200 o ddisgyblion oedd yn yr ysgol ond bellach mae stori o lwyddiant ym Maesgeirchen ger Bangor. Bydd nifer y disgyblion wedi codi i 270 o fewn dwy flynedd ac mae'r got o baent a'r arwydd newydd yn symbol o hyder newydd yr athrawon a disgyblion. Mae stori Glancegin yn codi cwestiwn amlwg - sut all arweinydd nesaf Llafur Cymru sicrhau fod tro ar fyd mewn ysgolion eraill? Diwedd y gân ydi'r geiniog medd y Brifathrawes Bethan Morris-Jones: "Mae'n rhaid cael y systemau yn eu lle. "Pan 'da chi'n meddwl am gyllideb, yn y ddwy flynedd ers pan dwi yma dwi wedi gorfod torri £90,000 a gweithio gyda dau aelod o staff yn llai. "Mae'n broblem i'r ysgol hon fel pob ysgol arall". Dyma bolisïau'r tri ymgeisydd: Carwyn Jones - Gwario 1% yn fwy ar y gyllideb addysg - Cau ysgolion sydd â chanran uchel o lefydd gwag. Huw Lewis - Edrych eto ar Adroddiad Bramley (adroddiad i Lywodraeth y Cynulliad yn 2007) - Delio gydag annhegwch daearyddol a'r gwahaniaethau rhwng faint sy'n cael ei wario mewn ysgolion ac awdurdodau lleol Edwina Hart - Cynhadledd i roi cyngor i bobl ifanc sydd ddim yn derbyn addysg neu hyfforddiant - Datblygu'r 'cyfnod sylfaen' sef addysg rhwng 3 a 7 oed. Ers ei ddyddiau fel aelod seneddol Llafur yn y 1970au mae Gwynoro Jones wedi bod yn arbenigwr yn y maes addysg. Mae o wedi cwblhau dros 800 o arolygiadau ysgolion. Ddylai'r prif weinidog nesaf ddim gosod eu gorwelion yn rhy bell medda fo. "Gwasanaethau llinell flaen yw'r pennaeth, yr athro a'r llywodraethwyr. Nid yr awdurdod lleol, nid y cynghorwyr. "Dyna ydi'r peth cyntaf sydd angen i'r arweinydd nesaf feddwl amdano". Y cysur i olynydd Rhodri Morgan ydi fod Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi bod yn flaengar ym maes addysg - mae'r cynllun dysgu trwy chwarae yn un arloesol ym Mhrydain. Ond ai papuro dros y craciau mae llwyddiant cynlluniau o'r fath? Mae 'na £500 yn llai ar bob plentyn ar gyfartaledd yn cael ei wario ar addysg plant Cymru o'i gymharu â Lloegr - cau'r bwlch a gwneud defnydd da o'r arian newydd ydi'r her i Carwyn Jones, Edwina Hart neu Huw Lewis.
|