British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2009, 19:10 GMT
Undeb yn ofni colli 160 o swyddi

Grŵp bancio Lloyds
Mae undeb Accord yn cynrychioli cyn-weithwyr HBOS sydd nawr yn gweithio i Lloyds

Mae undeb yn honni bod grŵp bancio Lloyds am gael gwared ar 160 o swyddi yng Nghaerdydd.

Mae'r banc wedi cadarnhau y bydd dros bum mil o weithwyr eraill y cwmni yn colli eu swyddi yn y flwyddyn newydd.

Dywed yr undeb, Accord, y byddai'r mwyafrif o'r 160 o swyddi yn cael eu colli drwy gau swyddfa Heol Casnewydd yng Nghaerdydd.

Mae'r staff sydd yno yn prosesu morgeisi ar gyfer Birmingham Midshires.

Dywed Lloyds y byddai'r mwyafrif o'r colledion yn yr adrannau technoleg gwybodaeth, a'r gwasanaethau casglu a thalu.

Yn ôl y banc mae rhai o'r toriadau yma yn cynnwys staff dros dro, ac mai'r canlyniad go iawn fyddai colli 2,600 o swyddi yn y DU.

Yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd Lloyds, a berchnogir 43% gan y trethdalwr, y byddai'n derbyn £5.7 biliwn arall gan y Trysorlys gan werthu o leiaf 600 o ganghennau.

'Newyddion ofnadwy'

Fe ddywedodd y Royal Bank of Scotland yr wythnos ddiwethaf hefyd y byddai'n cael gwared ar bron i 4,000 o swyddi ledled y DU.

Dywedodd Accord, bod hyn yn "newyddion ofnadwy."

"Roeddem bob amser yn cydnabod y byddai colli swyddi yn anorfod wrth i Lloyds TSB ymgorffori gweithrediadau HBOS, ond bydd maint newidiadau heddiw yn gadael nifer mewn sioc," dywedodd Ged Nichols, ysgrifennydd cyffredinol Accord.



HEFYD
Lloyds i gwtogi 200 o swyddi
25 Awst 09 |  Newyddion
Brown yn troi at fanciwr o Gymru
14 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific