British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2009, 07:15 GMT
91 mlynedd ers Dydd Cadoediad

Cafodd seremonïau eu cynnal led led Cymru am 11am

Mae nifer o seremonïau wedi cael eu cynnal yng Nghymru ac Ewrop i gofio Dydd y Cadoediad a diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf 91 mlynedd yn ôl.

Hwn yw'r cofio cynta heb yr hen filwyr gan i'r tri ola farw eleni.

Bu farw Bill Stone, 108 oed, ym mis Ionawr cyn Henry Allingham, 113 oed, a Harry Patch, 111 oed, ym mis Gorffennaf.

Am 11am bu dwy funud o dawelwch i nodi'r adeg pan ddaeth cadoediad i rym a rhoi diwedd ar y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1918.

Cafodd bron 900,000 o aelodau lluoedd arfog Prydain eu lladd rhwng 1914 a 1918.

Yn y Senedd ym Mae Caerdydd y Llywydd, Arglwydd Elis Thomas, oedd yn arwain y ddwy funud o dawelwch.

Canu'r gloch

Am 10.50am fe ddarllenodd y Llywydd a Tim O'Sullivan, Islywydd Sir Bro Morgannwg y Lleng Brydeinig, yr Anogiad cyn i Gloch y Cynulliad gael ei ganu am 11am.

Yn Wrecsam roedd y Lleng Brydeinig wedi trefnu seremoni y tu allan i'r hen lyfrgell yng nghanol y dref. Yno hefyd bu dwy funud o dawelwch, Yr Utgorn Olaf a Reveille.

Oherwydd y gwahaniaeth amser roedd milwyr Prydain yn Afghanistan eisoes wedi cynnal dwy funud o dawelwch yn Camp Bastion yn Nhalaith Helmand am 6.30am amser Prydain.

Yn Llundain y Frenhines oedd yn arwain y cofio mewn seremoni yn Abaty Westminster.

200fed milwr

Ddydd Mercher cyhoeddwyd bod rhieni'r Preifat Richard Hunt, y 200fed milwr o Brydain i'w ladd yn Afghanistan, yn sefydlu mudiad er cof amdano.

Roedd y preifat o'r Fenni , o 2il Fataliwn y Gwarchodlu Brenhinol Cymreig, yn 21 oed pan fu farw yn yr ysbyty yn Birmingham ym mis Awst, ddau ddiwrnod ar ôl cael ei anafu mewn ffrwydrad yn nhalaith Helmand.

Mae ei deulu a'i ffrindiau eisoes wedi codi mwy na £10,000.

Bydd y mudiad yn cydweithio ag elusennau eraill wrth helpu a chefnogi milwyr sydd wedi eu hanafu a'u teuluoedd.

Roedd ei rieni, Hazel a Philip, wedi bod yn adnewyddu ysgubor eu fferm fel y gallai droi'n gartref i Richard.

Eu bwriad yw ei throi'n ganolfan ar gyfer milwyr wedi eu hanafu.



HEFYD
Cymru'n cofio diwedd y rhyfel
08 Tach 09 |  Newyddion
URC yn 'ymddiheuro'n ddiffuant'
11 Tach 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific