British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2009, 12:01 GMT
Gwelyau haul: Angen mwy o reoli

Gwely haul
Tystiolaeth gref: 'Defnyddio gwelyau haul yn achosi canser y croen'

Dylai Llywodraeth y Cynulliad gael yr hawl i wahardd rhai dan 18 oed rhag defnyddio salonau lliw haul, yn ôl pwyllgor Aelodau'r Cynulliad.

Mae adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn awgrymu gwahardd llefydd lle mae modd defnyddio gwelyau lliw haul yn dd-staff.

Yn ôl y pwyllgor, mae yna "dystiolaeth gref sy'n awgrymu bod defnyddio gwelyau haul yn achosi canser y croen."

Dangosodd arolwg fod yna 419 o salonau lliw haul yng Nghymru - 46 ohonyn nhw'n ddi-staff.

Dywedodd y Sefydliad Gwelyau Haul y dylai pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed barhau i gael yr hawl i ddefnyddio'r salonau.

Eisoes mae'r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi dweud mai ei bwriad yw gwahardd rhai o dan 18 oed rhag defnyddio gwelyau haul.

Mae hi o blaid gwahardd salonau di-staff ac mae gwaharddiad tebyg wedi ei gymeradwyo yn Yr Alban.

Edwina Hart AM
Edwina Hart: Yn poeni am rai o dan 18 yn defnyddio gwelyau haul

Yn ôl Darren Millar AC, cadeirydd y pwyllgor: "Er bod hunanreoleiddio yn y diwydiant i'w groesawu, nid yw wedi atal y straeon ofnadwy am blant mor ifanc â 10 oed yn cael eu llosgi'n ddifrifol."

Bu'r pwyllgor yn casglu tystiolaeth am dri mis oddi wrth y diwydiant salonau, elusennau canser a'r Gweinidog Iechyd.

Mae'r pwyllgor yn argymell y dylai'r ddeddf newydd wahardd rhai dan 18 oed rhag eu defnyddio, annog grwpiau risg uchel eraill i beidio â'u defnyddio a sicrhau bod y cyfleusterau'n cael eu goruchwylio'n llawn amser.

Eisoes mae'r Sefydliad Gwelyau Haul wedi dweud na ddylid codi oedran defnyddio gwely haul o 16 i 18 oed.

Ond roedd y prif weithredwr, Kathy Banks, wedi dweud wrth y pwyllgor nad oedd salonau di-staff yn aelodau o'r mudiad.

"Fe fydden ni'n cefnogi unrhyw gamau i'w cau," meddai.



HEFYD
Gwelyau haul: Ymchwiliad
18 Meh 09 |  Newyddion
Gwelyau haul: Rheolau newydd?
20 Chwef 09 |  Newyddion
Gwelyau haul: 'Angen newid deddf'
04 Medi 09 |  Newyddion
Gwelyau haul: 'Anghyfrifol'
28 Medi 09 |  Newyddion
Gwelyau haul: 'Gormod o oedi'
21 Awst 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific