British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2009, 14:04 GMT
Afghanistan: Corff Cymro'n dod yn ôl

Nicholas Webster-Smith
Roedd Nicholas Webster-Smith yn yr Heddlu Milwrol

Mae cyrff chwech o filwyr, gan gynnwys Cymro, gafodd eu lladd yn Afghanistan wedi cael eu hedfan yn ôl.

Roedd y Corporal Nicholas Webster-Smith yn un o bump gafodd eu saethu'n farw gan aelod o Heddlu Afghanistan yr wythnos ddiwethaf.

Ar ôl i'r eirch gyrraedd Canolfan yr Awyrlu yn Lyneham yn Wiltshire roedd gwasanaeth preifat ar gyfer y teuluoedd.

Wedyn roedd cannoedd yn gwylio wrth i'r eirch gael eu cludo drwy Wootton Basset.

Roedd Nicholas, 24 oed, yn aelod o'r heddlu milwrol a chafodd ei fagu yn yr Eglwys Lwyd a Saundersfoot yn Sir Benfro.

Ymosodiad

Bu farw ar ôl ymosodiad yng ngwersyll yr heddlu yn Nad Ali yn nhalaith Helmand.

Y pedwar arall fu farw yn yr ymosodiad oedd y Gwarchodfilwr Jimmy Major, y Swyddog Gwarant Darren Chant, y Sarjant Matthew Telford, a'r Corporal Steven Boote.

Mae'r awdurdodau'n chwilio o hyd am yr ymosodwr ar ôl iddo ddianc.

Y corff arall gafodd ei hedfan yn ôl ddydd Mawrth oedd un Sarjant Phillip Scott gafodd ei ladd mewn ffrwydrad ddydd Iau.



HEFYD
Cymro ymhlith pum milwr
05 Tach 09 |  Newyddion
AS: 'Tynnwch filwyr yn ôl'
04 Tach 09 |  Newyddion
Afghanistan: Milwr wedi marw
28 Medi 09 |  Newyddion
Teulu a'r fyddin yn rhoi teyrnged
23 Awst 09 |  Newyddion
Afghanistan: Cymro'n marw
17 Awst 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific