British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2009, 12:49 GMT
Cyn-gyfarwyddwr amgueddfa yn marw

Douglas Bassett
Bu'n hybu'r amgueddfa fel sefydliad addysgiadol

Mae Dr Douglas Bassett, cyn-Gyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol, wedi marw'n 82 oed.

Fe oedd cyfarwyddwr Cymraeg cynta'r amgueddfa rhwng 1977 ac 1986 ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Cymru America yn 1980.

Fe ddaeth yn gyfarwyddwr y mudiad hwnnw a'i arbenigedd oedd cyhoeddi deunydd am y cysylltiad rhwng lleoliadau Eisteddfodau a'r Unol Daleithiau.

Fe gafodd ei eni yn Llwynhendy ger Llanelli lle cafodd ei fagu.

Roedd yn fab i löwr ac fe aeth i Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Llanelli.

Ar ôl gorffen ei radd gyntaf a'i ddoethuriaeth mewn Daeareg yn Aberystwyth fe gafodd swydd darlithydd yn Adran Ddaeareg Prifysgol Glasgow.

Ym 1959 fe olynodd y Dr F J North yn Geidwad Daeareg yn Amgueddfa Cymru.

Gwnaeth lawer i wella'r casgliadau daearegol a datblygu'r adran yn ganolfan ymchwil, yn enwedig ym maes paleontoleg.

Addysgiadol

Ym 1977 fe gafodd ei benodi'n gyfarwyddwr gan olynu'r Dr G O Jones a bu'n llwyddiannnus iawn yn y swydd honno.

Ymchwiliodd i ddaeareg ardal Y Bala gyda'r Athro Alwyn Williams a'r Athro Harry Whittington.

Bu'n hybu'r amgueddfa fel sefydliad addysgiadol wrth gefnogi'r Gwasanaeth Amgueddfeydd Ysgolion.

Rhoddodd arweiniad i'r amgueddfa a chafwyd cyfres lwyddiannus o arddangosfeydd.

Yn anffodus, bu'n rhaid iddo ymddeol yn gynnar ym 1985 oherwydd salwch.

Roedd wedi bod yn Gadeirydd Bwrdd Adnoddau Dŵr Cymru rhwng 1965 a 1973 ac yn Gadeirydd Cyngor Gwarchodfa Natur Cymru rhwng 1973 ac 1985.

Ar ôl ymddeol roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes yr amgueddfa a chyhoeddodd yn helaeth.

Fe gyfrannodd yn fawr at baratoi'r Gwyddoniadur Cymreig.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific