Dathlu: Les Scadding a'i wraig Samantha
Les Scadding, 58 oed, a'i wraig Samantha Peachey-Scadding, 38 oed, o Gaerllion ger Casnewydd yw'r pâr priod o Gymru sy wedi ennill £45.5 miliwn yn y Loteri Ewropeaidd. Maen nhw'n rhannu'r brif wobr â chriw o weithwyr Technoleg Gwybodaeth o Lerpwl. Fe sylwodd Mr Scadding ei fod wedi prynu'r tocyn hollbwysig ar ôl bod yn siopa yn archfarchnad Tesco yng Nghasnewydd. "Pan es i weld faint o'n ni wedi ennill fe argraffodd y peiriant ddarn o bapur yn dweud y dylwn i gysylltu'n syth â Camelot. "O'n i'n meddwl mod i wedi ennill £50,000 neu rywbeth tebyg ... "Es i adre a dweud wrth Samantha ac wedyn tsiecio'r rhifau ar-lein. "Am gwpwl o funudau o'dd y ddau ohonon ni'n pallu credu cyn i ni ffonio Camelot." Dywedodd y ddau eu bod wedi dathlu drwy fynd am ginio dydd Sul i'w hoff fwyty. £35m Cafodd enw'r cwpl buddugol ei gyhoeddi yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd. Bydd y cwpl o ardal Casnewydd yn derbyn siec o £45,570,835.50. Cyn heddiw Angela Kelly o dde Lanarkshire yn Yr Alban oedd wedi ennill y swm fwyaf, sef £35 miliwn yn Awst 2007. Y rhifau lwcus gafodd eu tynnu ddydd Gwener oedd T 19, 43, 45, 34, 11 a'r rhifau Lucky Star oedd 5 a 9. Mae naw yn y Loteri Ewropeaidd, Prydain, Iwerddon, Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Awstria, Y Swistir, Gwlad Belg a Lwcsembwrg.
|