Un ffactor: Mwy o gerddwyr a dringwyr
Mae aelodau tîm achub mynydd wedi dweud bod nifer galwadau bron wedi dyblu eleni. Hyd yn hyn mae Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen, sy'n gofalu am ran o Eryri, wedi cael eu galw 114 o weithiau yn 2009. Yn 2008 o fewn yr un cyfnod roedd 65 o alwadau. Maen nhw wedi dweud bod hyn oherwydd mwy o gerddwyr a dringwyr a'r duedd gynyddol o ddefnyddio ffonau symudol i alw am help.
Lleoliad yr achosion wedi eu nodi ar wefan y Tîm Achub
|
Dywedodd aelod o'r tîm, Chris Lloyd: "Mae pobl yn deialu 999 ar unwaith a gadael i eraill sortio petha allan." Ddydd Sul bu'n rhaid i aelodau'r tîm helpu deirgwaith yn Eryri. Lleihau Mae mynyddwyr a cherddwyr profiadol yn cynnal cyrsiau i geisio lleihau nifer y damweiniau yn Eryri. Y rhai sy'n cynnal y cwrs yw Tîm Achub Mynydd y Gogledd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Heddlu'r Gogledd. Yn ôl y trefnwyr, mae mwyafrif y rhai sy'n mynd i drafferth yn byw y tu allan i ogledd Cymru. Ac mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu hanafu o dde-ddwyrain Lloegr a gogledd-orllewin Lloegr. Yn ôl arolwg, dynion rhwng 21 a 30 oed oedd y rhai mwyaf tebygol o fynd i drafferth.
|