British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 9 Tachwedd 2009, 16:16 GMT
Wylfa ar restr o 10

Ed Miliband
Ed Miliband: Yn cyhoeddi 10 safle

Mae Ed Miliband, Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth Prydain, wedi cyhoeddi rhestr o 10 safle addas ar gyfer gorsafoedd niwclear newydd.

Yn eu plith mae Wylfa ar Ynys Môn tra bod naw safle yn Lloegr.

Mae disgwyl i'r cyntaf o'r 10 fod ar waith erbyn 2018.

Dywedodd cwmni Horizon Nuclear Power y gallai atomfa newydd ym Môn ddechrau cynhyrchu trydan tua diwedd y degawd nesa - o bosib yn 2020.

Yn y cyfamser, mae'r mudiad gwrthniwclear PAWB wedi dweud bod angen edrych yn fanwl ar ffynonellau eraill o bŵer.

Fe fydd atomfa bresennol Wylfa yn cynhyrchu trydan tan fis Rhagfyr 2010.

Fe fydd rhaid i bob cais i godi atomfa niwclear fod yn rhan o broses gynllunio.

'Cam pwysig'

Ond yn Nhŷ'r Cyffredin fe ddywedodd Mr Miliband fod 'na fwriad i gyflymu'r drefn honno.

Nod y llywodraeth yw y bydd ynni niwclear yn 40% o ynni newydd erbyn 2025.

Dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Clive McGregor: "Mae hwn yn gam pwysig i ni.

"Fe fydd y cyhoeddiad yn rhoi hyder i'r darpar ddatblygwyr, JV - Horizon ac RWE npower.

"Mi allai'r buddsoddi olygu tua £8 biliwn.

"Mae hyn yn debyg i'r buddsoddi yn Llundain cyn Gemau Olympaidd 2012."

'Anwybyddu'

Dywedodd fod angen "gwneud yn fawr o'r cyfle" i warchod swyddi tymor hir ar yr ynys.

Mae Dylan Morgan ar ran PAWB wedi dweud: "Mae Mr Milliband yn llwyr anwybyddu yn ei ddatganiadau y defnydd o danwydd iwraniwm dwysach ...

"Dymuniad y diwydiant niwclear fydd gallu gadael y tanwydd yn yr adweithydd am gyfnod hirach o lawer na'r hyn sy'n cael ei wneud mewn gorsafoedd niwclear ar hyn o bryd.

"Mi fydd y tanwydd hwn yn creu gwastraff dwywaith poethach a dwywaith mwy ymbelydrol na'r gwastraff sy'n carel ei gynhyrchu ar hyn o bryd."

Fe fydd cyfnod ymgynghori o 14 wythnos wedi'r cyhoeddiad.



HEFYD
Barn ymgeiswyr ar yr amgylchedd
09 Tach 09 |  Newyddion
Aliwminiwm: Diwedd cynhyrchu
30 Medi 09 |  Newyddion
Ffatri: 'Gobaith am 15 mis'
22 Gorff 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific