Yr awdur (chwith) a'r Athro J Gwynne Williams, awdur cyfrol am hanes y brifysgol tan 1927
|
Fe gafodd llyfr am hanes Prifysgol Bangor ei gyhoeddi ddydd Llun. Awdur y gyfrol, Prifysgol Bangor 1884-2009, yw cofrestrydd y brifysgol, Dr David Roberts, wrth iddi ddathlu 125 mlynedd. Ym mis Hydref 1884 dim ond 58 o fyfyrwyr oedd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru - yn y Penrhyn Arms. Erbyn hyn, mae'n brifysgol annibynnol â phwerau dyfarnu graddau ac ynddi mae 13,000 o fyfyrwyr a staff. Dywedodd yr awdur: "Mae'n cofnodi'r uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau, y llwyddiannau a'r argyfyngau, a'r heriau yn hanes y brifysgol." Chwarelwyr Cafodd y brifysgol ei sefydlu oherwydd ymgyrch yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg o blaid gwell addysg uwch yng Nghymru. Elfen hollbwysig oedd cyfraniadau gwirfoddol chwarelwyr lleol o'u tâl wythnosol dros nifer o flynyddoedd. Dywedodd yr awdur: "Mae hon yn brifysgol sy'n cael nerth o'i hanes a'i gwreiddiau ond hefyd yn un sydd wedi goroesi wrth addasu at amgylchiadau. "Mae wedi wynebu llawer o heriau dros y blynyddoedd fel y bydd, yn ddi-os, yn y dyfodol. "Ond mae'r ymrwymiad wrth y safonau uchaf o ddysg, ymchwil ac ysgolheictod yn gyson." Dywedodd yr hanesydd Kenneth O Morgan o Rydychen wrth groesawu'r llyfr: "Mae'n haeddu cael ei ddarllen ar raddfa eang gan bawb sy'n ymwneud â hanes y Gymru fodern." Yn y cyfamser, mae arddangosfa tan y Nadolig y tu allan i Siambr y Cyngor ar lawr cyntaf prif adeilad y brifysgol. Mae'r gyfrol ar gael yn Gymraeg neu Saesneg.
|