Roedd y tân toc wedi 9pm nos Sul
|
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw oherwydd tân yn ardal Abergwaun, Sir Benfro. Roedd Terrance Keith Jones yn 57 oed. Yn ôl llygad-dyst, fe ledodd y tân o gar ar fferm Ciliau West yn Llanwnda ger Gwdig toc wedi 9pm nos Sul. Fe gafodd dwy injan dân - un o Dyddewi ac un o Abergwaun - eu galw. Yn ôl yr heddlu, dyw'r farwolaeth ddim yn amheus. Mae adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer Swyddfa'r Crwner.
|