Doedd 'na ddim rhwystrau ar y groesfan yn Y Friog
|
Mae corff sy'n cynrychioli rheilffordd wedi beirniadu dirwy o £40 gafodd dynes wnaeth wrthdaro gyda thrên ar groesfan. Fe wnaeth Eileen Lawrence, 72 oed, yrru dros y groesfan yn Y Friog yng Ngwynedd lle bu mewn gwrthdrawiad â thrên oedd yn gyrru 20 milltir yr awr. Chafodd neb ei anafu. Fe wnaeth Mrs Lawrence gyfadde iddi yrru yn ddiofal. Ond dywedodd aelodau Cynhadledd Rheilffordd y Cambrian, oedd yn cyfarfod dros y penwythnos ym Mhorthmadog, bod y ddirwy isel yn anfon y neges anghywir. Ar ôl cyfadde iddi fod yn gyrru yn ddiofal cafodd Mrs Lawrence ddirwy o £40 a thri phwynt ar ei thrwydded. Ddim yn canolbwyntio Cafodd ei gorfodi hefyd i dalu £80 mewn costau a £15 ychwanegol gan ynadon Dolgellau ym mis Medi. Dywedodd bod gyrrwr arall wedi tynnu ei sylw cyn iddi wrthdaro gyda'r trên oedd yn teithio o Fachynlleth i Bwllheli ar Fai 14 eleni. Clywodd y llys bod y golau coch a sŵn rhybudd yn gweithio ar y groesfan. Ond doedd 'na ddim rhwystrau ar y groesfan. Dywedodd Bob Newman, heddwas gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain, wrth y gynhadledd bod y ddirwy arferol am anwybyddu'r golau coch fel arfer tua £120. "Rhaid i mi gyfadde bod y ddirwy o £40 yn un isel iawn a doedd hi ddim yn adlewyrchu'r effaith gafodd hyn ar y gyrrwr trên. "Bu'n rhaid i'r gyrrwr dreulio amser i ffwrdd o'i waith ac fe achosodd y ddamwain anghyfleustra dybryd i'r teithwyr." Cyfarfod ynadon Ychwanegodd bod Mrs Lawrence yn lwcus na chafodd ei hanafu yn ddifrifol. Dywedodd cadeirydd y gynhadledd, y Cynghorydd Trefor Roberts, bod dirwy mor isel yn rhoi'r neges anghywir i bobl. Dywedodd Ben Davies ar ran Trenau Arriva Cymru y byddai o blaid i'r cwmnïau a Heddlu Trafnidiaeth Prydain gynnal trafodaethau gyda phwyllgorau Llys Ynadon Gogledd Cymru. "Rhwng mis Ionawr a mis Awst eleni cofnodwyd tua 40 o achosion lle bu bron i ddamwain ddigwydd," meddai Mr Davies. "Roedd y mwyafrif yn ymwneud â gyrwyr wnaeth osgoi gwrthdaro â thrên." Ers mis Ebrill roedd 'na 15 digwyddiad o gerbydau yn croesi'r cledrau pan oedd y golau yn goch yn ôl Mr Newman, gostyngiad o bump ers 2008. Mae'r aelodau wedi cytuno i geisio cael cyfarfod gyda'r ynadon i gwyno am y ddirwy.
|