|
Mae un o uwch swyddogion y gwasanaeth tân wedi dweud y dylai pobl gael bwyd parod yn hytrach na choginio pan maen nhw wedi bod yn yfed. Daw ei sylwadau ar ôl i ddyn 24 oed gael ei achub o dy ym Mhrestatyn. Eglurodd Gwasanaeth Tân y Gogledd bod y dyn wedi bod yn yfed ac nad oedd o wedi clywed y larwm mwg yn y tŷ yn Ffordd Grosvenor am 4.32am. Fe wnaeth cymdogion weld y mwg a chysylltu gyda'r gwasanaethau brys. Dywedodd y gwasanaeth tân bod y dyn wedi syrthio i gysgu wrth goginio. "Ein cyngor ydi i beidio byth a choginio ar ôl bod yn yfed," meddai Tom Pye o'r gwasanaeth tân. Dim yfed a choginio "Gwnewch frechdan yn barod cyn mynd allan neu gael bwyd parod ar y ffordd adre." Dywedodd bod diffoddwyr tân wedi mynd i mewn i'r adeilad ac arwain yr unig berson oedd yn y tŷ allan yn ddiogel. Bu'n rhaid i ddiffoddwyr ddefnyddio offer anadlu i daclo'r fflamau. Cafodd y dyn driniaeth am effeithiau anadlu mwg gan barafeddygon. Dywedodd y gwasanaeth tân bod gril wedi cael ei adael heb neb yn gorchwylio. "Wrth i nesáu at y Nadolig a thymor y partïon, mae'r digwyddiad yma yn rhybudd na ddylech yfed a choginio," ychwanegodd Mr Pye. "Mae'n ymddangos bod y dyn yma wedi mynd ati i ddechrau paratoi yfed ac wedi gadael y gril ymlaen cyn syrthio i gysgu. "Gallai yfed achosi i bobl beidio gweld perygl a hefyd wnaeth y larwm mwg ddim deffro'r dyn." Ychwanegodd y swyddog y gallai marwolaeth fod wedi digwydd oni bai i'r cymydog weld y mwg.
|