Mae cynllun tebyg wedi cael ei ddefnyddio eisoes yn Cumbria
Fe fydd y gwaith yn cychwyn i godi lefel platfform gorsaf reilffordd yn y gogledd orllewin cyn diwedd y mis. Petai'r gwaith yn Aberdyfi yn llwyddiant, mae'n bosib y gallai gael ei ehangu i tua 20 o orsafoedd eraill drwy Gymru. Mae'r platfform yn cael ei addasu er mwyn cael gwared ar hanner metr o wagle i deithwyr sy'n gorfod camu o'r trên i'r platfform. Mae defnyddwyr yr orsaf wedi bod yn galw ers tro am welliannau gan gynnwys mynediad gwell i deithwyr anabl. Clywodd cynhadledd gan Reilffordd Arfordir y Cambrian y gallai gorsafoedd eraill yng Nghymru elwa o'r un cynllun. Fe fydd y gwaith ar y cynllun £60,000 yn cychwyn ar Dachwedd 24. Mae'r cynllun wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad. Hen blatfform Fe fydd y ramp o wydr ffibr a phlastig yn sicrhau na fydd 'na wagle i'r teithwyr. Mae'r cynllun yn golygu y gallai addasu'r ramp ar gyfer unrhyw uchder yn y ffatri a fydd yn ffitio gwahanol orsafoedd ac mae modd ei wneud i unrhyw hyd. Bydd y ramp yn Aberdyfi yn golygu gwelliant i 17 metr o'r platfform. Oherwydd hyn fydd dim angen i'r platfform gwreiddiol gael ei ailadeiladu. Mae nifer o blatfform gorsafoedd Cymru wedi cael eu hadeiladu 150 mlynedd yn ôl er bod trenau wedi cael eu haddasu ers hynny. Roedd rhai ymgyrchwyr yn dweud bod rhai teithwyr yn methu gadael y trên yn Aberdyfi ac yn gorfod teithio ymlaen i Dywyn cyn cael tacsi yn ôl. Eglurodd y cynghorydd Trefor Roberts o'r Bermo, a chadeirydd y gynhadledd, ei fod yn digwydd bod ar y trên yn ddiweddar gyda Dirprwy Brif Weinidog y Cynulliad, Ieuan Wyn Jones a'r AC lleol, Dafydd Elis-Thomas. "Fe wnes i allu dangos i'r ddau y broblem," meddai. "O fy nealltwriaeth i, fe allai cynllun Aberdyfi gael ei ddefnyddio mewn gorsafoedd eraill lle mae'r platfform yn isel."
|