British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2009, 07:05 GMT
Ffasiwn: Bwriad i greu amgueddfa

Ffatri a phencadlys Laura Ashley yng Ngharno
Fe wnaeth y cwmni gau'r ffatri a'u pencadlys yng Ngharno yn 2004

Cafodd cynlluniau eu datgelu ar gyfer pentre gafodd ei roi ar y map gan y cynllunydd ffasiwn Laura Ashley.

Dywedodd Aelod Cynulliad Trefaldwyn, Mick Bates, y byddai'r amgueddfa yng Ngharno, Powys, yn dathlu gwaith y cynllunydd ffasiwn.

Fe gaeodd pencadlys y cwmni yng Ngharno gau yn 2004.

Datblygodd cwmni Laura Ashley i fod yn llwyddiant byd-eang.

Dywedodd Mr Bates fod y cwmni wedi chwarae rhan bwysig yn ei etholaeth.

"Yng Nghymru rydym yn falch iawn o'n hanes ac ym Maldwyn fe wnaeth Laura Ashley chwarae rhan fawr yn ein treftadaeth.

"... mae yma gyfle gwych i ddathlu etifeddiaeth Laura Ashley yn ogystal â chefnogi datblygiad economaidd yng Ngharno."

'Ymgyrch hirdymor'

Yn ôl Mr Bates, mae rhai pentrefwyr wedi awgrymu agor amgueddfa yn adeilad yr Hen Orsaf lle oedd Laura Ashley yn gweithio ar un adeg.

"Fe fyddai canolfan Laura Ashley yn helpu'r ymgyrch hirdymor i ailagor gorsaf Carno.

"Bydd yn fynediad cynaliadwy i'r prosiect a bydd ymwelwyr yn gallu cyrraedd mewn trên," ychwanegodd Mr Bates.

Fe wnaeth cwmni Laura Ashley sefydlu yng Ngharno yn y 1960au ac fe gafodd ffatri ei chodi yno.

Agorodd y cwmni nifer o siopau mewn dinasoedd a bu farw Laura Ashley yn 60 oed yn 1985.



HEFYD
Dadorchuddio cofeb i Laura Ashley
01 Gorff 09 |  Newyddion
Ashley: AC yn chwilio am brynwr
30 Tach 08 |  Newyddion
Siop gynta Laura Ashley i gau
23 Rhag 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific