Fe fydd enw Ray Gravell bellach ar un o ystafelloedd Stadiwm y Mileniwm
|
Cafodd teyrnged barhaol i'r cyn-chwaraewr rygbi a'r darlledwr Ray Gravell ei ddadorchuddio yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn. Roedd ei weddw, Mari, a'u merched Manon a Gwenan yn y stadiwm ar gyfer agoriad swyddogol Ystafell Ray Gravell. Bu farw cyn seren tîm rygbi Llanelli yn 56 oed yn 2007 tra ar wyliau yn Sbaen gyda'i deulu. Ei enw fydd bellach ar yr ystafell cynadledd y wasg. Dywedodd llywydd Undeb Rygbi Cymru, Dennis Gethin, eu bod yn "falch o anrhydeddu dyn roddodd gymaint i Gymru". Lluniau "Roedd yn genhadwr heb ei ail dros Gymru, y wlad, ei diwylliant, yr iaith ac wrth gwrs ei champau," ychwanegodd. "Mae'n haeddu cael ei gofio a hynny mewn ffordd arbennig iawn." Fe fydd ymhelwyr â Stadiwm y Mileniwm yn cael ymweld â'r stafell fel rhan o daith o amgylch y stadiwm. Mae yno 14 o luniau o Grav yn portreadu ei fywyd fel chwaraewr rygbi ac fel darlledwr. Dywedodd Mari Gravell bod y teulu yn "falch iawn" bod yr undeb yn cydnabod cyfraniad Grav yn y modd yma. "Roedd yn angerddol dros rygbi ac yn falch o'r cysylltiadau gyda'r byd chwaraeon yn rhinwedd ei waith fel darlledwr. "Mae'n wych meddwl y bydd ei atgof yn parhau yn ffurfiol o fewn y stadiwm lle y treuliodd amser yn gweithio a gweld cymaint o ddigwyddiadau rygbi arbennig."
|