|
Cafodd traffordd yr M4 ei hailagor ar ôl gwrthdrawiad yn oriau mân bore Sul. Bu'r draffordd ar gau rhwng cyffordd 32 (Porth Caerdydd) a 30 (cyffordd Coryton) tua'r dwyrain am tua wyth awr. Roedd traffig yn ardal Caerdydd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A470 Ffordd y Gogledd, Gabalfa a'r A48M i ail ymuno a'r draffordd yng nghyffordd 29. Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cerbyd Volkswagen Sharan tywyll a cherbyd yr heddlu tua 4.15am ger cyffordd 30. Chafodd neb anafiadau. Mae'r pedwar person oedd yn y Sharan yn cynorthwyo'r heddlu gydag ymholiadau. Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ac os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu yn lleol ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.
|