British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 9 Tachwedd 2009, 12:21 GMT
Tanau: Rhyddhau ar fechnļaeth

Ty ar dān ym Mhencarnisiog
Cafodd y gwasanaeth tān eu galw i Bencarnisiog

Mae'r heddlu, sy'n ymchwilio i danau mewn dau dŷ haf gwag ar Ynys Môn, wedi rhyddhau dau ddyn 22 a 29 oed ar fechnïaeth.

Cafodd y ddau adeilad eu difrodi gan danau ddechreuodd o fewn 40 munud ddydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r adeilad yn Nhŷ Croes am 6.30am ac i'r adeilad ym Mhencarnisiog toc wedi 7am.

Ar ôl ymchwiliad daeth yn amlwg bod y tanau wedi cael eu cynnau'n fwriadol.

Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw un ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.

Y rhif ffôn yw 101, 0845 607 1001 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific