Cafodd y gwasanaeth eu galw i ddau ddigwyddiad o fewn ychydig filltiroedd i'w gilydd
|
Mae 'na rybudd i bobl fod yn wyliadwrus ar ôl i ddau achos o dân o fewn ychydig filltiroedd i'w gilydd ymddangos i gael eu cychwyn yn fwriadol. Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd a Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd gyhoeddi'r rhybudd ar ôl y digwyddiadau ar Ynys Môn ddydd Sadwrn. Cafodd y gwasanaeth eu galw i daclo tân mewn tŷ yn Nhŷ Croes am 6.30am cyn cael eu galw ychydig filltiroedd i ffwrdd i ddigwyddiad mewn tŷ ym Mhencarnisiog tua hanner awr yn ddiweddarach. Roedd y ddau dŷ gwyliau yn wag ar y pryd. Chafodd neb eu hanafu ond mae'n ymddangos bod y ddau dân wedi cael eu cynnau yn fwriadol. Cysylltiad Diffoddwyr o Gaergybi a Rhosneigr gafodd eu galw i'r digwyddiad cyntaf yn Nhy Croes lle'r oedd 'na dractor ar dân ac yn achosi rhwystr yn y ffordd. Roedd 'na adeilad gerllaw ar dân hefyd. Fe wnaeth y fflamau ddifrodi llofft yno. Criwiau o Langefni, Rhosneigr a Chaergybi wnaeth ateb yr alwad i daclo'r fflamau yn yr adeilad deulawr ym Mhencarnisiog. Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân wedi cychwyn ymchwiliad ar y cyd. Mae'n ymddangos bod 'na gysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad. Dywedodd yr heddlu nad oes 'na le i awgrymu bod 'na gysylltiad gydag eithafwyr Cymreig a bod eu hymchwiliad yn canolbwyntio ar yr ardal leol. Os oes gan unrhyw un wybodaeth am hyn fe ddylen nhw gysylltu gyda'r orsaf heddlu lleol neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.
|